Dyfodiad podiau prawf perfformiad adeiladau newydd yn gwella dysgu ymarferol
Mae'r amser wedi dod o'r diwedd, ac rydym wrth ein bodd yn cael cyhoeddi bod ein podiau prawf perfformiad adeiladau newydd wedi cyrraedd!
Mae'r offer dysgu diweddaraf hyn wedi cael eu cynllunio a'u hadeiladu'n ofalus i wella dysgu ymarferol ar gyfer ein myfyrwyr. Gyda'r podiau prawf hyn, gallwn roi profiad ymarferol i'n myfyrwyr iddynt ddeall ystyr perfformiad da o ran ffabrig yn well, ynghyd â'r hyn a allai beryglu'r perfformiad hwn. Allwn ni ddim aros i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y podiau prawf hyn yn ei chael ar daith dysgu ein myfyrwyr.
Mae'r podiau hyn yn cynrychioli'r cyfuniad perffaith o addysgu, ymchwil ac arloesedd. Mae'r podiau wedi'u hadeiladu i adlewyrchu egwyddorion Passivhaus a Rheoliadau Adeiladu Cymru, a bydd y ddau bod yn cynnig cyfle unigryw i'r myfyrwyr ddysgu am dechnegau BPE megis aerglosrwydd, Mesur Gwerth U, perfformiad thermol, a cholli gwres.
Trwy ddefnyddio dull adeiladu ffrâm bren paneli caeedig, bydd y podiau hyn hefyd yn addysgu ystod eang o gynulleidfaoedd am adeiladau carbon isel, perfformiad uchel, sy'n defnyddio pren fel deunydd adeiladu cynaliadwy.
Mae'r ddau bod, a gafodd eu dylunio a'u hadeiladu mewn cydweithrediad â Woodknowledge Wales, Rob Thomas o Pensaerniaeth Hiraeth a Kenton Jones (Dylunwyr a Gwneuthurwyr), yn dathlu ac yn cydnabod ein perthynas â diwydiant a rhanddeiliaid.
Mae'r podiau prawf hyn yn nodi carreg filltir arwyddocaol o ran ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu ymarferol i'n myfyrwyr a fydd yn llunio eu gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu.
Am fwy o wybodaeth a dyddiadau hyfforddi cysylltwch a rachel.a.cook@uwtsd.ac.uk