Carmarthenshire County Council have invested in building new schools to the Passivhaus standard. Efficiency without compromise focuses on educating and promoting a greater awareness of the principles and techniques used in the design, construction, and maintenance of a variety of existing Passivhaus schemes in Carmarthenshire.
Bydd y rhaglen hyfforddi yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys gwyddor adeiladu, effeithlonrwydd ynni, aerglosrwydd, awyru, inswleiddio, a dylunio solar goddefol, a gyflwynir trwy weithgareddau damcaniaethol a rhai gweithgareddau ymarferol.
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, gweminarau ac arddangosiad o astudiaethau achos rhanbarthol cyfredol.
Bydd yr hyfforddiant a ariennir yn llawn yn cynnwys:
- Passivhaus i Grefftwyr
- Passivhaus i Ddylunwyr
- Passivhaus ar gyfer Ymarfer/Cynnal a Chadw (Newydd)
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys defnyddio meddalwedd modelu ynni a phrofion aerglosrwydd i helpu cyfranogwyr i ddeall a gwella perfformiad ynni'r adeiladau hyn.
Yn ogystal â'r agweddau technegol, bydd y rhaglen hyfforddi hefyd yn ymdrin â manteision cymdeithasol ac economaidd adeiladu adeiladau ynni-effeithlon, megis gwell iechyd a lles, biliau ynni is, ôl troed amgylcheddol a hyrwyddo datblygu cynaliadwy.
Ar gyfer pwy y mae hyn?
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y grwpiau canlynol sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin neu a allai fod yn gweithio ar brosiectau yn Sir Gaerfyrddin.
- Penseiri a Pheirianwyr
- Crefftwyr a Chontractwyr
- Staff Rheoli Cyfleusterau
- Arolygwyr Adeiladau
- Myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch
- Grwpiau Cymunedol
Mewn partneriaeth â
NEW COURSE
We have a fully funded, 2 day Passivhaus Tradesperson course being held in Carmarthen on 1 & 2 May. For further information and to apply follow this link.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Hyfforddiant Passivhaus cysylltwch â julie.evans@uwtsd.ac.uk.