Julie yw Prif Weinyddwr CWIC, ac mae hefyd yn rheoli prosiect dysgu trochi y Ganolfan, CONVERT.
Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad mewn perthynas â marchnata, cysylltiadau cyhoeddus, digwyddiadau, a gweinyddu. Mae Julie yn cydgysylltu ac yn rheoli digwyddiadau a chyfarfodydd CWIC, ac mae'n gyfrifol am ddatblygu'r wefan a'r cyfryngau cymdeithasol.
Mae gan Julie radd mewn Marchnata o Brifysgol Morgannwg, ac mae'n rhugl yn y Gymraeg.