Mae'r Prosiect Cwricwlwm Mewn Cyd-destun (CCP), fel y'i gelwid yn wreiddiol, yn rhaglen tair blynedd o hyd a ariennir gan CITB, sy'n darparu cynnig addysg adeiladu ledled Cymru, a hwnnw wedi'i dargedu at ddarparwyr addysg Cynradd, Uwchradd ac Amgen. Mae'r prosiect hefyd yn gwella'r heriau presennol sy'n canolbwyntio ar adeiladu ym Magloriaeth Cymru.

Cyflwynir y cynnig addysg ar ffurf pecyn cymorth a gynlluniwyd yn arbennig ac sy'n cynnwys cynlluniau gwersi unffurf, hawdd eu darllen mewn perthynas â phynciau STEAM, Adeiladu ac ABGI. Ar ôl i'r deunyddiau gael eu cwblhau, a fapiwyd i gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru, byddant ar gael i unrhyw un, a hynny trwy gofrestru ar wefan Am Adeiladu ar ôl mis Ionawr 2020.

Sefydlwyd Consortiwm y Prosiect Cwricwlwm mewn Cyd-destun (CCP) dan arweiniad Bouygues UK ym mis Mai 2017, ac mae'n cynnwys CITB Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC), WRW Construction, Kier Construction, y Sefydliad Adeiladu Siartredig, a Gyrfa Cymru.

Mae'r cwmni technoleg dysgu, Aspire2BE, a gomisiynwyd i ddatblygu adnoddau ar gyfer pecyn cymorth, wedi bod yn cynnal gweithdai 'chwarae, crefft a dysgu' mewn ysgolion ledled Cymru. Mae'r adnoddau'n gwbl ryngweithiol ac yn cwmpasu sgiliau mewn perthynas â llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM), yn ogystal ag adeiladu.

Mae'r prosiect bellach yn ei gyfnod peilot, ac wedi cael ei ailfrandio yn Am Adeiladu – Addysgu. Mae gweithdai wedi cael eu cynnal gydag ysgolion peilot a phartneriaid ym maes diwydiant, ac mae'r adborth cyfredol yn rhagorol Am Adeiladu - Addysgu. Workshops have taken place with pilot schools and industry partners and current feedback is excellent.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Rheolwr CSR CSR Manager

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics