Bydd Nid Busnes Fel Arfer yn canolbwyntio ar addysgu a hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o'r egwyddorion a'r technegau a ddefnyddir wrth ddylunio, adeiladu a chynnal a chadw amrywiaeth o ddulliau adeiladu carbon isel, gan ganolbwyntio'n benodol ar ffabrig adeiladau.

Bydd gweithgareddau Adeiladu Cymru Sero Net yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid mewn diwydiant, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a'r trydydd sector i greu a chyflwyno micro-gyrsiau mewn dylunio 'Ffabrig yn Gyntaf'. Cynhelir sesiynau yng ngweithdy adeiladu'r brifysgol gan ddefnyddio ystod o offer pwrpasol a chymhorthion hyfforddi i ategu'r sgiliau hyn.

Beth yr ydym yn ei gynnig?
Trwy gyllid a ddarperir gan y rhaglen Sgiliau a Thalent rydym yn cynnig hyfforddiant ymarferol wedi'i ariannu'n llawn yn y meysydd canlynol: fully funded and practical training in the following areas: 

Dull Ffabrig yn Gyntaf 

  • Dyluniad amlenni adeiladau 
  • Dulliau Adeiladu Modern 
  • Dylunio solar goddefol 
  • Ffiseg adeiladu a pherfformiad 
  • Gwres ac awyru mecanyddol/adnewyddadwy 

Ôl-ffitio Ffabrig yn Gyntaf 

  • Asesu Adeiladau (modelu ynni a nodi cyfleoedd i arbed ynni).
  • Asesu Adeiladau (inswleiddio, aerglosrwydd, drysau, ffenestri a màs thermol i wella effeithlonrwydd ynni). 
  • Technoleg adeiladu glyfar

Gallwch ddewis gwneud cymaint o'r uchod ag y dymunwch.

Ar gyfer pwy y mae hyn?

  • Diwydiant
  • Myfyrwyr Adeiladu mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch
  • Pobl nad ydynt mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant
  • Grwpiau Cymunedol 
Swansea Bay City Deal
CCC-supported-by (1)

Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth cwblhewch y ffurflen yma..

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch j.walker@uwtsd.ac.uk

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics