Adeiladu ar gyfer Gwell Byd
Mae adeiladu yn ddiwydiant hanfodol – mae'n creu cartrefi, adeiladau a seilwaith sy'n gwella'r mannau lle rydym yn byw ac yn gweithio.
Mae'r sector yn wynebu galwadau cynyddol i adeiladu'n well, yn fwy clyfar ac yn wyrddach – i drawsnewid y ffordd y caiff adeiladau eu dylunio, eu cynhyrchu a'u hadeiladu.
Mae'r sector yn wynebu galwadau cynyddol i adeiladu'n well, yn fwy clyfar ac yn wyrddach – i drawsnewid y ffordd y caiff adeiladau eu dylunio, eu cynhyrchu a'u hadeiladu.
Mae CWIC yn cefnogi'r diwydiant adeiladu yng Nghymru i adeiladu gweithlu sefydlog a chydnerth. Rydym yn esblygu galluoedd a chymhwysedd yn unol â thueddiadau a chyfleoedd newidiol, a hynny trwy nodi bylchau mewn sgiliau a darparu atebion arloesol.
Ein Cenhadaeth
Cenhadaeth CWIC yw cydweithredu â phartneriaid i helpu'r sector adeiladu i ddod yn ddiwydiant Sero Net. Rydym yn hyrwyddo technolegau newydd ac yn cefnogi arfer gorau er mwyn diogelu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
Ein Gwerthoedd
Rydym yn gysylltiedig..
Rydym yn adlewyrchu'r diwydiant yr ydym yn ei wasanaethu, yn deall ei anghenion ac yn ymgysylltu â'n rhwydwaith i gyflawni canlyniadau sy'n canolbwyntio ar y diwydiant.
Rydym yn gydweithredol.
Rydym yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol sy'n arwain y diwydiant, busnesau, cyrff masnach, darparwyr dysgu, awdurdodau lleol, ac eraill, i rannu gwybodaeth, dirnadaeth a chyfleoedd.
Rydym yn arloesol.
Rydym yn flaengar, ac yn chwilio'n gyson am atebion ymarferol i dasgau heriol.
Rydym yn agored.
Ynghylch y ffordd yr ydym yn gweithio a'r hyn yr ydym yn ei ddysgu ar hyd y ffordd.