Mae yna alw cynyddol am sgiliau adeiladu gwyrdd newydd, a hynny o ganlyniad i reoliadau cynyddol gan y llywodraeth a'r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i’n diwydiant fabwysiadu ffordd o weithio sy'n fwy ystyriol o garbon a’r amgylchedd er mwyn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni ein hamgylchedd adeiledig erbyn y targed sero net, sef 2050.

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi’i hariannu i gynnig brosiect hyfforddi newydd yr ydym wedi ei alw yn Adeiladu Cymru Sero Net (ACSC). Mae ACSC yn cynnwys dau brosiect nodedig a fydd yn canolbwyntio ar ehangu ein dealltwriaeth o'r agenda werdd yn ogystal â datblygu ymarferol sgiliau hyfforddi.

Dull ymarferol yw Nid Busnes Fel Arfer i hybu mwy o ymwybyddiaeth o’r egwyddorion a’r technegau a ddefnyddir wrth ddylunio, adeiladu a chynnal a chadw amrywiaeth o ddulliau adeiladu carbon isel, gan ganolbwyntio’n benodol ar ffabrig adeiladau. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i gyfranogwyr o Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Prosiect hyfforddi Passivhaus yw Effeithlonrwydd Heb Gyfaddawd, a fydd yn creu mwy o ymwybyddiaeth o’r egwyddorion a’r technegau a ddefnyddir wrth ddylunio, adeiladu, a chynnal a chadw amrywiaeth o gynlluniau cyfredol yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am leoedd ar gyrsiau Passivhaus, gan gynnwys y cyrsiau Dylunydd Passivhaus Ardystiedig a Chrefftwr Passivhaus Ardystiedig.  


Gweler ein crynodeb fideo byr isod.
CONSTRUCT NET ZEROCYMRU
cyCymraeg
Verified by ExactMetrics