Arbed ynni yn flaenllaw yng nghyrsiau adeiladu’r Brifysgol

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi sicrhau cyllid gan Raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddarparu cyrsiau mewn technegau adeiladu sy’n arbed ynni er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.
Bydd prosiect newydd Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn y Drindod Dewi Sant, sef Adeiladu Cymru Sero Net – Nid Busnes fel Arfer, yn darparu cyrsiau a gyflwynir gan arbenigwyr yn y diwydiant gyda chyfuniad o waith ac addysg ymarferol a damcaniaethol ar lefelau amrywiol, ynghylch math o ddylunio o’r enw Ffabrig yn Gyntaf.
Mae dull dylunio adeiladu ‘ffabrig yn gyntaf’, yn ôl y diffiniad ar www.designingbuildings.co.uk, yn ymwneud â chynyddu perfformiad y cydrannau a’r deunyddiau sy’n rhan o ffabrig yr adeilad ei hun i’r eithaf, cyn ystyried y defnydd o systemau gwasanaethau adeiladau mecanyddol neu drydanol.
Mae’r dechneg yn defnyddio dulliau megis cynyddu aerglosrwydd i’r eithaf, cynyddu inswleiddio, optimeiddio pŵer solar ac awyru naturiol er mwyn lleihau’r angen i ddefnyddio ynni a lleihau allyriannau carbon.
Bydd gweithgareddau Adeiladu Cymru Sero Net yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid mewn diwydiant, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a'r trydydd sector i greu a chyflwyno micro-gyrsiau mewn dylunio 'Ffabrig yn Gyntaf'. Cynhelir sesiynau yng ngweithdy adeiladu'r brifysgol gan ddefnyddio ystod o offer pwrpasol a chymhorthion hyfforddi i ategu'r sgiliau hyn.
Cyflwynir y cyrsiau i’r buddiolwyr drwy weithdai ymarferol unigryw yn CWIC gan arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y cyrsiau newydd yn cynnwys cymysgedd o 8 rhaglen am Ffabrig yn Gyntaf mewn Adeiladau Newydd ac Ôl-osod. Sef:
Ffabrig yn Gyntaf mewn Adeiladau Newydd:
Dylunio amlenni adeiladau
Dulliau Adeiladu Modern (MMC)
Dylunio solar goddefol
Ffiseg a pherfformiad adeiladau
Gwres ac awyru mecanyddol/adnewyddadwy
Ôl-ffitio Ffabrig yn Gyntaf
Asesiadau Adeiladau – yn cynnwys ystod o asesiadau perfformiad, modelu ynni, a dynodi cyfleodd i arbed ynni
Asesiadau Adeiladau – inswleiddio, aerglosrwydd, drysau, ffenestri a màs thermol i leihau dibyniaeth adeiladau ar ynni i wresogi ac oeri
Technoleg adeiladu glyfar
Nod y Drindod Dewi Sant yw darparu’r cyrsiau diwrnod neu hanner diwrnod hyn ar gyfer 150 o unigolion o’r diwydiant, 20 addysgwr, 50 o bobl ddi-waith / arall a 200 o fyfyrwyr o lefel 2-7. Caiff pob un o’r cyrsiau ei deilwra i’r cynulleidfaoedd gwahanol.
Meddai Rachel Cook, Swyddog Cefnogi Diwydiant ar gyfer Sero Net yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn y Drindod Dewi Sant: “Ni allwn ni guddio rhag yr argyfwng hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd nac osgoi edrych ar yr effeithiau mae’r diwydiant adeiladu yn gallu eu creu. Gyda phrisoedd ynni’n saethu drwy’r to mae angen i ni sicrhau bod ein stoc dai bresennol a newydd mor effeithlon â phosibl o ran ynni.
“Mae dull Ffabrig yn Gyntaf yn ymgorffori agwedd ‘ei gwneud hi’n iawn y tro cyntaf’, ac mae’n ystyried pwysigrwydd deunyddiau adeiladu, gwaith gosod, a’r effeithiau mae’r pethau hyn yn eu cael ar berfformiad adeiladau o ran ynni. Mae’n brosiect ymarferol cyffrous iawn y mae’r diwydiant yn falch i fod yn rhan ohono ac yn ei gyflawni.”
Caiff cynnwys y cwrs ei greu gan arbenigwyr y diwydiant ac addysgwyr yn ogystal â defnyddio adnoddau presennol.
Mae’r Brifysgol yn gobeithio recriwtio’r myfyrwyr cyntaf o fis Tachwedd 2023, gyda’r cynllun yn rhedeg tan fis Ionawr 2025.
Meddai Jane Lewis, Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae cynaliadwyedd a thechnoleg newydd bellach wrth wraidd sut rydym ni’n dylunio, yn adeiladu, ac yn byw mewn cartrefi newydd yng Nghymru. Mae’r ffyrdd hyn o weithio a defnyddio deunyddiau’n wahanol iawn i ddulliau traddodiadol ond maen nhw’n allweddol er mwyn cyflawni economi gylchol yng Nghymru.
“Mae croesawu newid yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth newydd, y bydd rhaglen Adeiladu Cymru Sero Net a’r hyfforddiant gan CWIC yn eu darparu drwy ddysgu ymarferol a thrwy ymwybyddiaeth gynyddol o ddulliau adeiladu a dylunio newydd. Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i sicrhau bod sgiliau’r dyfodol ar gael i fodloni’r nifer mawr o gyfleoedd a fydd ar gael yn y rhanbarth dros y 10 mlynedd nesaf.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan https://cwic.wales/construct-net-zero-cymru/