Beth yw Passivhaus?
Ysgrifennwyd blog y mis hwn yn garedig iawn gan The Passivhaus Trust.
Ystyrir yn aml mai Passivhaus yw safon aur adeiladu y gellir ei gymhwyso i unrhyw fath o adeilad. Mae ei wreiddiau yn niwedd yr 20fed ganrif ac mae wedi ennill sylw mawr yn fyd-eang, gan gynnwys yng Nghymru, fel ateb i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, chwalu biliau ynni, a lleihau swm yr ynni a ddefnyddir mewn adeiladau. Yma, rydym yn edrych ar hanfodion Passivhaus, pam y mae'n berthnasol i Gymru, a'r modd i'w gyflawni.
Beth?
Mae Passivhaus yn mabwysiadu dull adeilad cyfan ac iddo dargedau clir, wedi'u pwyso a'u mesur, sy'n ffocysu ar adeiladu o ansawdd uchel. Mae'n cynnwys amgáu adeilad mewn 'cap tebot' ffigurol. Mae'r adeiladau wedi'u hinswleiddio, yn aerglos, ac wedi'u hawyru'n dda ag awyr ffres cyson, gan hyrwyddo cysur mewnol ac iechyd optimaidd. Mae'r anterth hwn yn arwain at adeilad sy'n defnyddio ychydig neu ddim ynni i'w wresogi neu ei oeri ei hun.
Mae Passivhaus hefyd yn berthnasol i ôl-osod. Mae EnerPHit (Tystysgrif Tai Ynni Goddefol ar gyfer ôl-osod) yn ystyried cyfyngiadau adeilad sy'n bod (er enghraifft cyfeiriadaeth, adeiladwaith, a faint o wydr sydd ynddo), ac yn ymlacio rhai o'r meini prawf i adlewyrchu hyn. Mae'n dal i fod yn safon heriol iawn.
Ychwanegwyd hefyd ddosbarthiadau Passivhaus Plus a Passivhaus Premium, sy'n ystyried ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Mae'r ffiseg adeiladu y tu ôl i Passivhaus yn berthnasol i unrhyw adeilad: yng Nghymru, mae yna esiamplau ardystiedig o hunanadeiladu, tai cymdeithasol, swyddfeydd, a llawer mwy.
Pam?
Mae adeiladau yn droseddwyr sylweddol o ran allyriadau carbon, gan gyfrif am 35% o gyfanswm yr ynni a ddefnyddir yn fyd-eang. Mae mabwysiadu dull cyntaf effeithlon yn hanfodol ar gyfer bodloni targedau lleihau carbon.
Yn ôl Ymchwil gan y Senedd (Senedd Cymru 2024), Cymru sydd â'r gyfran isaf o dai effeithlon o ran ynni EPC C neu uwch yn y DU. Amcangyfrifir bod 600,000 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tai oer neu laith. Mae tai oer yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd a llesiant, sy'n rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd. Bu i'r canllawiau ar fuddion Passivhaus nodi bron 50 o fanteision eraill. (Welsh Parliament 2024), Wales has the lowest proportion of energy-efficient homes EPC C or higher in the UK. An estimated 600,000 people in Wales live in cold or damp housing. Cold homes have a direct impact on health and well-being, which puts extra pressure on health services. The Passivhaus benefits guide identified almost 50 other benefits.
Mae Passivhaus yn parhau'n ddiddos yn y gaeaf ac yn gysurus o oer yn yr haf, gan sicrhau profiad byw cyson ac iach ar hyd y flwyddyn, a hynny heb filiau sy'n codi aeliau a heb gostio'r blaned! Mae'r ffocws hwn ar gysur yn cyd-fynd â'r cysyniad Danaidd traddodiadol o "hygge", sy'n pwysleisio diddosrwydd a bodlonrwydd o ran eich amgylchynau.
Sut?
Mae elfennau allweddol prosiectau Passivhaus y DU fel arfer yn cynnwys:
- Modelu dylunio cywir gan ddefnyddio'r Pecyn Cynllunio Tai Ynni Goddefol (PHPP).
- Cyfeiriadedd strategol i harneisio'r heulwen yn y gaeaf a hefyd osgoi gorboethi yn yr haf.
- Mae meini prawf mesuradwy yn cynnwys gwerthoedd u, profion aerglosrwydd, galw am wresogi gofod, adeiladu heb bont thermol, awyru mecanyddol effeithlon gyda system adfer gwres (MVHR), cyfrifiadau cydbwysedd gwres, a llawer mwy.
- Mae ardystio yn agwedd hanfodol sy'n cynnwys profion ansawdd annibynnol. Mae'r broses sicrhau ansawdd drylwyr hon yn digwydd yn ystod ac ar ôl adeiladu, ac yn sicrhau bod yr holl feini prawf yn cael eu bodloni. Mae'n gwarantu y bydd meddianwyr yr adeilad yn cael adeilad sy'n perfformio yn ôl y bwriad.
Crynodeb
Mae Passivhaus yn ddull profedig o sicrhau adeiladu o ansawdd uchel, dull sy'n addas iawn ar gyfer yr heriau amgylcheddol sy'n wynebu Cymru a'r byd. Trwy flaenoriaethu cysur y preswylwyr ac effeithlonrwydd o ran ynni, mae adeiladau Passivhaus yn cynnig ateb cymhellol ar gyfer creu cymunedau iachach, mwy cydnerth, gan leihau ein heffaith ar y blaned ar yr un pryd. Boed mewn pentrefi gwledig neu ganolfannau trefol, mae gan Passivhaus y potensial i drawsnewid y ffordd yr ydym yn dylunio ac yn codi adeiladau am genedlaethau i ddod.
Cyfleoedd Hyfforddi Passivhaus
The University of Wales Trinity Saint David’s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) has been funded by the UK Government’s Levelling Up Fund and supported by Carmarthenshire County Council to run a project called Efficiency without Compromise.
Gan weithio ar y cyd Coaction, sef partneriaid swyddogol Ymddiriedolaeth Passivhaus, mae CWIC yn darparu cyfleoedd i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin elwa o hyfforddiant Passivhaus a ariennir yn llawn. Mae'r rhain yn cynnwys y cwrs Dylunydd Ardystiedig Passivhaus (sy'n dechrau 5 Mawrth) a'r cwrs Crefftwr Ardystiedig.
I gael rhagor o fanylion am ddyddiadau ac argaeledd, cysylltwch â Julie Evans, Rheolwr Prosiect, CWIC ar 01792 481273
The Passivhaus Trust yn sefydliad annibynnol, dielw sy’n darparu arweinyddiaeth yn y DU ar gyfer mabwysiadu safon a methodoleg Passivhaus. Mae Passivhaus yn safon ddylunio ynni isel ryngwladol sy'n galluogi trosglwyddiad ystyrlon i sero net 'nawr. Mae dros 65,000 o adeiladau wedi cael eu dylunio, eu hadeiladu a'u profi i'r safon hon ledled y byd. Mae'r Ymddiriedolaeth yn hyrwyddo Passivhaus fel ffordd gadarn o ddarparu safonau uchel o gysur ac iechyd i breswylwyr, GAN HEFYD chwalu biliau ynni a lleihau allyriadau carbon o adeiladau yn y DU.
Tag:climate change, energy, passivhaus