Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ffair Yrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy yn ystod Wythnos Menywod mewn Adeiladwaith

I ddathlu Wythnos Menywod mewn Adeiladwaith (Mawrth 3 i 9), cynhaliodd Prifysgol Cymru Y DRindod Dewi Sant Ffair Yrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy cyntaf yn ei hadeilad IQ yn Abertawe.
Wedi’i threfnu ar y cyd gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru, yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladwaith a’r Amgylchedd, a Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, nod y ffair oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â myfyrwyr ar ymweliad o Goleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) a Choleg Gŵyr Abertawe, gwrdd ag ystod eang o gwmnïau sy’n ymwybodol o’r amgylchedd; i rwydweithio, a gwneud ymchwil mewn i ragolygon swyddi o fewn y cwmnïau hyn.
Mae Wythnos Menywod mewn Adeiladu yn dathlu ac yn hyrwyddo rôl menywod yn y diwydiant adeiladu ac yn cydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth lunio dyfodol y diwydiant adeiladu.
Yn ogystal â’r ffair, mwynhaodd gwesteion nifer o gyflwyniadau craff gan fenywod sy’n gweithio mewn rolau adeiladu, pensaernïaeth ac amgylcheddol. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Dr Alissa Flatley, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol yn y Drindod Dewi Sant, Rachel Cook, Pennaeth Rhwydweithiau Woodknowledge Cymru sy’n gyn-staff y Brifysgol yn ogystal â’n gyn-fyfyrwraig BSc Rheoli Prosiect ac Adeiladwaith drwy lwybr Gradd Brentisiaeth, a Michelle Murillo, cyn-fyfyrwraig BSc Pensaernïaeth sydd bellach yn gweithio fel Technegydd Pensaernïol yn James and Nicholas Architects ym Mhort Talbot
Fe wnaethom hefyd groesawu Lindsay Richards, cyn-staff addysgu ac sydd bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Richards, Syrfëwyr Meintiau Siartredig a Pheirianwyr Adeiladwaith Siartredig yn Abertawe. Mae Lindsay wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers sawl blwyddyn ac mae’n angerddol am weld menywod yn symud ymlaen yn y sector. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu ac yn aelod o Banel Grŵp Proffesiynol Adeiladu yn Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.
Denodd yr arddangosfa gyrfaoedd dros 35 o gwmnïau gyda sawl sector yn cynrychioli sefydliadau adeiladu, pensaernïaeth, ynni, amgylcheddol a phroffesiynol. Diolch i’r holl gyflogwyr hyn a sicrhaodd lwyddiant y digwyddiad.
Hefyd, trefnodd staff o’r Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladwaith a’r Amgylchedd a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru y Brifysgol ystod o arddangosiadau a gweithgareddau yn seiliedig ar y thema cynaliadwyedd. Roedd y rhain yn cynnwys adeiladwaith pelenni gwellt, gweithdy daear wedi’i atgyfnerthu, gweithdy Quake Shake a oedd yn cynnwys archwilio sut i godi adeiladau mewn parthau daeargryn, a chyfle i ddysgu am gynaliadwyedd mewn adeiladu gan ddefnyddio realiti rhithwir.