Dwyn y Gorffennol i'r Dyfodol: Modelu Adeiladau Treftadaeth fel y'u Hadeiladwyd
Mae tîm arddangos technegol a medrus CWIC (Matt Drummond a Brandon Roberts) wedi bod yn brysur yn sganio ac yn modelu’r adeilad hynaf ar ystad PCYDDS, sef Coleg Dewi Sant o waith Charles Robert Cockerell, sy'n dyddio'n ôl i 1822-27 ac sydd wedi’i leoli ar gampws PCYDDS yn Llanbedr Pont Steffan.
Trwy sganio’r adeilad yn ei gyfanrwydd gan ddefnyddio ein sganiwr laser daearol, gellir creu model ohono fel y'i hadeiladwyd, a'i ddefnyddio wedyn i greu Gefell Digidol o’r adeilad a fydd yn galluogi Tîm Ystadau’r Brifysgol i reoli’r adeilad mewn modd mwy effeithiol.
Cafodd data ar gyfer yr arolwg mesuredig eu cipio gan ddefnyddio sganiwr laser daearol Leica RTC360 dros gyfnod o sawl diwrnod, a chafodd 582 o sganiau unigol eu cipio, gan gynhyrchu cwmwl pwyntiau crai o tua 2 biliwn o bwyntiau. Ar sail y cwmwl pwyntiau hwn cafodd yr adeilad ei fodelu'n fanwl yn Revit gan Brandon Roberts i greu model o'r adeilad cyfan fel y'i hadeiladwyd.
Yn achos y dysgwyr yn Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladwaith a’r Amgylchedd PCYDDS, mae’r prosiect wedi bod yn arddangosiad amhrisiadwy o bŵer sganio hynod o drachywir â laser a chreu modelau o adeiladau fel y’u hadeiladwyd ar gyfer rheoli a chynnal a chadw adeiladau treftadaeth ac ystadau mawr. Gan ddefnyddio’r model o'r adeilad fel y’i hadeiladwyd ar y cyd â Revizto, mae Tîm Ystadau’r Brifysgol yn gallu defnyddio’r model mewn modd arloesol i nodi, amserlennu a chofnodi gwaith cynnal a chadw rhagweithiol mewn ffordd llawer mwy effeithlon ac effeithiol.
Rydym wrth ein bodd â'r mathau hyn o brosiectau sy'n caniatáu i ni arddangos galluogrwydd ein hoffer a sgiliau ein tîm. Mae gallu sicrhau bod gan ein dysgwyr yn PCYDDS fynediad at dechnolegau a dulliau arloesol yn rhan greiddiol o’n cenhadaeth yn CWIC.