Yng Nghymru, mae tua 1.4 miliwn o adeiladau preswyl a hyd at 100,000 o adeiladau amhreswyl y bydd angen gwneud gwaith ôl-osod arnynt rhwng ’nawr a 2050 er mwyn lleihau eu hallyriadau dros y 26 mlynedd nesaf.
Fodd bynnag, sut y gallwn gyflawni hyn a sut y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud hynny yn dda? Un ateb yw trwy gyfrwng rhaglen hyfforddiant ERFIT.
Mae’n bleser gan CWIC gyflwyno rhaglen newydd Hyfforddiant Uwch ar wella Adeiladwaith Ôl-osod (ERFIT) sydd wedi’i chymeradwyo gan Ymddiriedolaeth Passivhaus.
Mae ein partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Passivhaus yn ein galluogi i gyflwyno’r cwrs yng Nghymru am y tro cyntaf, a bydd yn mabwysiadu ymagwedd gwneuthuriad yn gyntaf at ôl-osod.
Beth yw ERFIT?
Mae’r cwrs 3 diwrnod hwn, a ariannir yn llawn, yn cynnwys dau ddiwrnod o hyfforddiant ar-lein, a ddilynir gan ddiwrnod ymarferol ac asesu. Bydd y cwrs yn ymdrin â'r canlynol:
- Cyflwyniad i ôl-osod ac adnewyddu adeiladau
- Deall dewisiadau inswleiddio a’i weithrediad effeithiol
- Pontydd thermol a sut i’w hosgoi
- Aerglosrwydd ac awyru
- Ffenestri, drysau ac atal drafftiau
- Technolegau ynni adnewyddadwy a’u perthynas â pherfformiad gwneuthuriad
- Hanfodion ffiseg adeiladau ac offer i asesu’r opsiynau sy’n perfformio orau
- Lleithder a’i effaith ar wneuthuriad a pherfformiad adeiladau.
Darparir cyllid ar gyfer y cwrs hwn gan:
Ar gyfer pwy y mae'r hyfforddiant hwn?
- Gosodwyr deunydd Inswleiddio
- Rheolwyr Safle Adnewyddu
- Aseswyr Ôl-osod
- Rheolwyr Prosiectau
- Gweithwyr adeiladu proffesiynol
- Cydlynwyr Ôl-osod
- Myfyrwyr a phrentisiaid adeiladu AU ac AB
Dyddiadau'r Cwrs
Hydref
Dydd Llun 4ydd & dydd Mawrth 5ed, 13.30 - 5 o'r gloch (ar lein)
Dydd Llun 11eg & dydd Mawrth 12ain, 13.30 - 5 o'r gloch (ar lein)
Dydd Iau 14eg (dyddiad hyforddiant ymarferol, CWIC Abertawe).
Rhagfyr
Monday 2nd & Tuesday 3rd, 13.30 – 5 pm (online)
Monday 9th & Tuesday 10th, 13.30 – 5 pm(online)
Thursday 12th (Practical training day, CWIC Swansea)
Sut y mae archebu eich lle?
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cyrsiau yn y dyfodol, yn ogystal â dewisiadau dysgu eraill sy’n ymwneud ag ERFIT, nodwch eich manylion yn y y ffurflen hon.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, cysylltwch â julie.evans@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 01792 481273.
Y Tiwtoriaid
I gael rhagor o wybodaeth am y tiwtoriaid, cliciwch ar eu llun.