Cyhoeddi Cyrsiau Hyfforddiant Uwch Newydd ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod (ERFIT)
The University of Wales Trinity Saint David (UWTSD) Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is pleased to announce a new practical training programme to support the much-needed technical knowledge and expert skills for installing, advising and troubleshooting both existing and new retrofit projects.
Yn cael ei adnabod fel ERFIT (Hyfforddiant Uwch ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod) mae’r hyfforddiant hwn a ariennir yn llawn yn ategu prosiect Effeithlonrwydd Heb Gyfaddawd presennol CWIC sydd eisoes yn darparu dysgu i ddylunwyr a masnachwyr yn egwyddorion a thechnegau safon Passivhaus.
CWIC yw’r sefydliad cyntaf y tu allan i Loegr sy’n cynnig y cwrs hwn, a gefnogir yn llawn gan Ymddiriedolaeth Passivhaus.
Yn gyntaf bydd dau ddiwrnod o gyflwyno ar-lein ar y cwrs ERFIT. Bydd amrywiaeth o bynciau yn cael eu trafod o egwyddorion adeiladu gwneuthuriad yn gyntaf, y berthynas rhwng allyriadau carbon a thai, i’r dirwedd ôl-osod. Ar y trydydd diwrnod, bydd gweithdy wyneb yn wyneb lle bydd cynrychiolwyr yn dysgu drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol a’u cwblhau. Bydd y trydydd diwrnod, sef diwrnod olaf yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghyfleusterau CWIC sydd ag adnoddau da yn Adeilad IQ ar Gampws Glannau Abertawe.
Yn ogystal, mae CWIC yn cynnig sesiynau ôl-osod Passivhaus ymarferol byrrach 2.5 awr o hyd ar y pynciau canlynol:
- Airtightness and ventilation
- Insultation and thermal bridging
- Windows and doors and airtightness
Bydd y rhaglen sydd wedi’i hanelu’n benodol at y rhai sy’n dylunio ac adeiladu adeiladau ynni-effeithlon yn cynnwys darlithoedd, gweminarau ac arddangosiad o astudiaethau achos strwythurol Cymreig presennol.
Cyflwynir yr hyfforddiant gan ddarlithwyr PCYDDS sydd wedi hyfforddi gyda’r Athro Steve Bertasso o New Model Institute for Tech & Engineering (NMITE) yn Henffordd. Bydd y darlithydd PCYDDS Alun Watkins sy’n Ymgynghorydd Ardystiedig Passivhaus a chontractwr adeiladu cynaliadwy yn dysgu ar ddiwrnodau damcaniaethol y cwrs ERFIT. Bydd yr Uwch Ddarlithydd Ian Brown PCYDDS sy’n arbenigwr adeiladu cynaliadwy yn cyflwyno’r sesiwn ymarferol a’r sesiynau 2.5awr byrrach.
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth CWIC
“Mae’n fraint bod Ymddiriedolaeth Passivhaus wedi ymddiried yn CWIC i arwain y ffordd o ran darparu hyfforddiant ôl-osod hanfodol yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn hanfodol ar gyfer darparu masnachwyr, dylunwyr a gweithwyr proffesiynol gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu cartrefi ac adeiladau mwy ynni-effeithlon ar gyfer ein cymunedau. Yn ogystal, bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ymgorffori yn ein rhaglenni academaidd yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd yn PCYDDS, gan sicrhau effaith ac arloesi hirdymor mewn arferion adeiladu cynaliadwy.”
Gan fod Cyngor Sir Gâr wedi buddsoddi eisoes mewn adeiladu ysgolion newydd i safon Passivhous, mae’r hyfforddiant sydd wedi’i ariannu’n llawn yn cael ei dargedi at y rhai sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gâr, a allai fod yn aelod o’r grwpiau canlynol:
- Architects and engineers,
- Trades and Contractors,
- Facilities Management Staff,
- Building Inspectors,
- FE and HE Students / Staff,
- Community Groups.
Mae ERFIT yn cael ei gefnogi gan dri gwneuthurwr sy’n darparu samplau i ddysgwyr eu defnyddio yn ystod y diwrnodau hyfforddiant ymarferol.
- Ecological Building Systems have adopted a ‘Fabric First’ approach to design, with the use of more natural materials to optimise building performance and durability and have supplied tapes and membranes for the workshop days.
- Welsh company GRM Windows who have been designing, developing and delivering high quality windows and doors for over 40 years, have donated window sections in PVC/Alu which are manufactured in Wales to Passivhaus design standards. Managing Director Richard Gambling is keen for learners to understand how quality is crucial in the design and construction and/or installation phases of window specification.
- Technical specifier Partel who are developing innovative systems that encourage and accelerate the green building industry, are giving tapes and membranes for the workshop sessions. In 2013 Partel became the exclusive supplier of LUNOS decentralised ventilation systems in both Ireland and the UK; and Partel has donated a demo model of LUNOS for use by our learners.
Ariennir yr hyfforddiant yn llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF), a bydd angen cadw lleoedd trwy gysylltu â Julie Evans yn CWIC: julie.evans@uwtsd.ac.uk neu gellir ei archebu ar-lein yn CWIC.Wales.
Mae’r dyddiadau ar gyfer yr hyfforddiant 3 diwrnod ERLIT fel y ganlyn:
- Cohort 1 online training: 4-5 November 2024 and 11-12 November 2024
- Practical training on 14 November 2024
- Cohort 2 online training: 2-3 December and 9-10 December 2024
- Practical training for cohorts 3 and 4: 12 December 2024
Bydd sesiynau ymarferol 2.5awr Ôl-osod Passivhaus yn dechrau ar 31 Hydref rhwng 10.00am a 12.30pm a rhwng 1.30pm a 4pm bob dydd Iau.