'Deall Eich Pŵer' i wella sgiliau datgarboneiddio cartrefi
Gwahoddir myfyrwyr adeiladu, crefftwyr a gweithwyr proffesiynol i 'Deall Eich Pŵer' trwy ymweld â modiwl arddangos newydd yng nghyfleuster SA1 CWIC. Ei ddiben – yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i bobl sy’n ymwneud ag adeiladu ddatgarboneiddio stoc tai ein gwlad.
Mae’r modiwl hyfforddi ‘Deall Eich Pŵer’ yn gydweithrediad rhwng Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Sero, cwmni technoleg ynni sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Bydd y modiwl yn ymgymryd â'r daith ffordd gyntaf o’i bath ar hyd a lled Cymru, ac yn dangos i’r rheini a fydd yn bresennol fanteision ymgysylltu â thechnolegau carbon isel.
Ni ellir bellach ddefnyddio tanwyddau ffosil i wresogi tai cymdeithasol newydd eu hadeiladu. Yn fuan iawn, bydd angen i 1.4 miliwn o gartrefi* gyrraedd y safonau amgylcheddol uchaf posibl os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau ar gyfer Sero Net. O ganlyniad, mae yna gyfle enfawr i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y diwydiant adeiladu gefnogi’r ymdrech i leihau allyriadau carbon trwy addasu eu sgiliau a’u gwybodaeth a’u diogelu at y dyfodol.
Mae Deall Eich Pŵer yn cynnwys modelau gweithredol o'r darnau hyn o dechnoleg werdd – pympiau gwres o'r ddaear ac o'r aer, storfa batris, gwefru cerbydau trydan, gwydr solar, a gwresogi o dan y llawr – ymhlith llawer o rai eraill. Mae hyn yn galluogi buddiolwyr i gael yr hyfforddiant sgiliau ymarferol sydd mor werthfawr i grefftwyr a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd.
Dywedodd Gareth Evans, Pennaeth CWIC: “Wrth i ni anelu at sero net, mae ar fwy a mwy o unigolion angen cymorth i addasu i ddiwydiant sy’n newid. Dysgodd llawer o bobl eu crefft cyn i dechnoleg werdd ddod yn 'brif ffrwd’. Bydd y fenter hon yn sicrhau bod unrhyw un sy’n bresennol, waeth beth fo’i brofiad a’i arbenigedd, yn gallu teimlo’n hyderus ac yn alluog wrth wynebu’r cyfle cyffrous a ddarperir gan ddatgarboneiddio.”
Dywedodd Andy Sutton, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Arloesi Sero: “Mae sero net yn ymwneud â phawb yn symud ymlaen gyda'i gilydd i leihau effaith carbon ein cartrefi. Mae gan unigolion a sefydliadau ym maes adeiladu ran allweddol i'w chwarae yn ein taith tuag at gyflawni hyn. Mae cydweithredu yn y diwydiant yn hanfodol i helpu i osod sylfaen ar gyfer datblygu'r sgiliau a’r arbenigedd y mae eu hangen yng Nghymru. Felly, edrychwn ymlaen at weithio gyda CWIC i alluogi Deall Eich Pŵer ac i helpu i gyflawni sero net yn ein holl gartrefi.”
Mae'r modiwl wedi'i leoli yn Abertawe a bydd yn mynd ar daith yn fuan. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld neu gadw lle mewn sesiwn, gallwch weld lle mae'r cyfleuster a lle y bydd nesaf trwy anfon neges e-bost at cwic@uwtsd.ac.uk.