Ffair Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy
I ddathlu Wythnos Menywod ym Maes Adeiladu ar 3-9 Mawrth, mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd (SoACE), a’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr yn eich gwahodd i ymuno â ni yn ein Ffair Gyrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy ar 6 Mawrth.
Trwy arddangos yn y digwyddiad hwn byddwch yn gallu cwrdd â myfyrwyr yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd, yn ogystal â myfyrwyr adeiladu addysg bellach, y gallai eich cenhedlaeth nesaf o staff fod yn eu plith!
Er mwyn gwneud y digwyddiad hwn yn gynaliadwy yn llawn ystyr y gair, rydym yn gofyn i arddangoswyr feddwl am bethau y gallant eu cynnig i fyfyrwyr, megis lleoliadau gwaith, prentisiaethau, cynigion swyddi neu unrhyw weithgareddau eraill sy'n dechrau meithrin perthynas â darpar weithwyr.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, a byddwn yn darparu cinio a lluniaeth.
I gadw eich lle yn y digwyddiad llenwch y ffurflen hon.