Bydd hyfforddiant mewn ôl-osod yn cefnogi diwydiant i ddenu a chadw talent er mwyn bodloni targedau sero-net

UWTSD’s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) and Coleg Sir Gar are collaborating with industry partners to deliver emerging skills and training initiatives to support the UK and Welsh governments’ commitment to achieving Net Zero greenhouse gas emissions by 2050.

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) yn y Drindod Dewi Sant a Choleg Sir Gâr yn cydweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflwyno mentrau hyfforddi a sgiliau datblygol i gefnogi ymrwymiad llywodraethau’r DG a Chymru i gyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050.
Bydd Prifysgolion yn rhan allweddol o’r ymdrech genedlaethol i ymadfer, gan helpu i godi sgiliau a dysgu sgiliau newydd i’r gweithlu ar gyfer economi ôl-Covid. Yn ystod argyfwng Covid-19, mae’r Brifysgol wedi bod yn defnyddio ei harbenigedd, profiad ac adnoddau i gefnogi’r ymateb lleol, gan gynnal ei darpariaeth dysgu ar-lein er mwyn parhau i fynd i’r afael â’r bylchau mewn sgiliau a datblygu sgiliau busnesau cyfredol a denu buddsoddiad newydd i’r rhanbarth. Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid diwydiant i helpu i ailadeiladu ffabrig cymunedau, bydd galw mwy nag erioed am raddedigion gyda sgiliau lefel uchel i helpu i ysgogi twf economaidd yn y cyfnod ansicr hwn ac i’r dyfodol.
Mae pum cwrs newydd yn cael eu cyflwyno gan CWIC mewn partneriaeth â’r Retrofit Academy, Stroma Certification ac Ymgynghorwyr Edwards Hart, er mwyn galluogi busnesau a’u gweithwyr i ddarparu gwaith ôl-osod o ran effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau presennol er mwyn bodloni targedau lleihau carbon.
Meddai Gareth Wyn Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru: “Mae targed allyriadau sero-net yn gyfle i ni yrru newid o fewn y diwydiant. Gan weithio’n gydweithredol gyda Choleg Sir Gâr a’n partneriaid a’r sector, rydym wedi dynodi bylchau mewn sgiliau a chreu ystod o raglenni hyfforddi Ôl-osod. Bydd y rhaglenni hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i gyflogwyr at gyrsiau a chymwysterau a gyflwynir gan arbenigwyr yn y diwydiant er mwyn bodloni’r targedau a osodir gan lywodraethau’r DG a Chymru. Mae hyn yn ein galluogi i chwarae ein rhan o ran diogelu sgiliau adeiladu at y dyfodol.
“Mae Strategaeth Sgiliau sero-net CWIC wedi’i seilio ar lawer o ymchwil ac ymgysylltu helaeth â’r diwydiant yn gysylltiedig â’r symbyliad parhaus i foderneiddio a datgarboneiddio o fewn y sector. “Mae gan ddiwydiant Cymru her sylweddol o ran gweithio tuag at sero-net ac mae gwaith CWIC yn dangos sut rydym ni a’n partneriaid mewn lle unigryw i yrru’r diwydiant yn ei flaen gan fynd benben â’r her. “Mae llwybr hollol newydd i yrfaoedd ym maes adeiladu’n dod i’r amlwg sy’n cynnwys technoleg fodern newydd, a swyddi proffesiynol a rhai sydd angen sgiliau uchel. Mae rhai rolau swyddi na allwn hyd yn oed eu rhagweld eto, bydd angen i’r maes adeiladu allu symud yn gyflym ac mae angen i ni symud ddwywaith mor gyflym er mwyn cadw’n gyfredol.”
Mae Ôl-osod yn ddull pragmatig ar gyfer y tŷ cyfan er mwyn datgarboneiddio cartrefi presennol. Mae’n broses soffistigedig a phwrpasol sy’n ystyried y ffabrig neu’r deunyddiau y mae cartrefi wedi’u gwneud ohonynt; y ffordd rydym yn gwresogi ein cartrefi ac yn storio ynni ynddynt a’r ffordd y cyflenwir ynni i’n cartrefi. Mae uwchraddio’n gallu cynnwys pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar.
Mae Cyngor Adeiladu Gwyrdd y DG yn amcangyfrif y gallai hyd at 95% o allyriadau o’r amgylchedd adeiledig dros y 30 mlynedd nesaf ddeillio o’r adeiladau sy’n bodoli heddiw. Felly rhaid i’r rhan fwyaf o’r ymdrech i ddatgarboneiddio ganolbwyntio ar ôl-osod adeiladau presennol ar gyfer effeithlonrwydd ynni. Bydd angen o leiaf rywfaint o waith ôl-osod ar oddeutu 1.4 miliwn o adeiladau preswyl a hyd at 100,000 o adeiladau amhreswyl er mwyn lleihau allyriadau dros y 30 mlynedd nesaf. Hyd yn oed gyda ffyrdd newydd o weithio, maent wedi dynodi angen brys a thaer i recriwtio, hyfforddi ac mewn nifer o achosion, ailhyfforddi niferoedd mawr o bobl i wneud y gwaith.
“Mae’r Retrofit Academy wedi arloesi o ran hyfforddi Cydlynwyr Ôl-osod er mwyn cefnogi rhoi Safon Effeithlonrwydd Ynni PAS 2035 ar waith ar draws y wlad. Fodd bynnag, hyd yn hyn dim ond 4% o’r Cydlynwyr sydd wedi cymhwyso a chael eu hachredu sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Mae’r cydweithio hwn gyda CWIC yn rhoi cyfle i ni gynyddu’r nifer hwn yn gyflym er mwyn rhoi mynediad i landlordiaid cymdeithasol a deiliaid tai yng Nghymru at bobl sy’n gallu eu helpu i wireddu eu gweledigaeth o gael cartref iachus, twym a charbon isel,” meddai David Pierpoint, Cyfarwyddwr, Retrofit Academy.
Mae CWIC wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu a chyflwyno mentrau hyfforddi a sgiliau datblygol ym maes adeiladu ers iddi gychwyn ym mis Medi 2016.
Mae menter Cymru gyfan dan arweiniad Grŵp PCYDDS sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion ac yn gysylltiedig â Choleg y Cymoedd a Choleg Cambria yn darparu llwybr datblygu gyrfa integredig rhwng gweithwyr, crefftau a galwedigaethau adeiladu proffesiynol, dan arweiniad a ddarperir gan y Ganolfan yn Abertawe. Maent yn gweithio’n weithredol gyda’i gilydd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn yn cyfrannu at lefelau newydd o weithio cydweithredol rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU a darparwyr preifat) a’r diwydiant adeiladu.
Maent yn gweithio gyda'i gilydd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn yn cyfrannu at lefelau newydd o gydweithio rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU, a darparwyr preifat) a'r diwydiant adeiladu.
Dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau CITB Cymru: “Mae’r diwydiant adeiladu yng Nghymru yn chwarae rhan flaenllaw wrth gefnogi adferiad economaidd Prydain ar ôl Covid-19. Mae mwy o gwmnïau adeiladu yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru nag mewn mannau eraill ym Mhrydain, ac mae mwy o gwmnïau o Gymru yn gweld cynnydd yn eu gwaith hefyd.
“Bydd hyfforddiant mewn ôl-ffitio yn cefnogi’r diwydiant ac yn helpu cyflogwyr i ddenu a chadw talent i gyrraedd y targedau uchelgeisiol ar gyfer adeiladu yng Nghymru. Bydd y fenter hon yn gwneud ymuno â'r diwydiant yn haws i ddechreuwyr newydd, gan helpu i ddatblygu eu sgiliau i sicrhau y gallant fwynhau gyrfa werth chweil ym maes adeiladu.”
Ariennir y cyrsiau gan fenter Cyfrif Dysgu Personol Llywodraeth Cymru, a reolir gan Goleg Syr Gar, a gellir gwneud cais amdanynt yn unigol neu drwy gais cwmni.