CIOB A CWIC YN LANSIO PROFIAD ADEILADU REALITI RHITHWIR I FYFYRWYR
Mae’r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) wedi lansio profiad realiti rhithwir â’r nod o gynorthwyo addysg adeiladu i fyfyrwyr.
Mae’r prosiect yn deillio o ‘Sgiliau ar y Gweithle’, menter gan CWIC wedi’i chynllunio i ddarparu cyfleoedd dysgu diddorol a difyr ‘byw, ar y gweithle’ i fyfyrwyr o bob oed i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae CWIC wedi gweithio gyda cholegau partner ar draws Cymru i gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi’n seiliedig ar adeiladu i ymdrin ag anghenion penodol sgiliau yn y dyfodol, bylchau mewn darpariaeth a denu’r genhedlaeth nesaf o bobl i ystyried y diwydiant fel dewis gyrfa.
Mae’r cwrs, ‘Construct Your Future’, wedi’i gynllunio i alluogi disgyblion i weithio at Brosiect Dylunio ac Adeiladu erbyn diwedd y flwyddyn yn ogystal â chwblhau Dyfarniad Lefel 1 City and Guilds mewn Sgiliau Adeiladu fydd yn gyflwyniad gwerthfawr i’r diwydiant adeiladu. Bydd cyfleoedd hefyd iddynt gael profiad ymarferol gyda rhai o’r sgiliau hanfodol yn y diwydiant a gwneud tasgau’n defnyddio meddalwedd Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur a dysgu am waith Syrfëwr Meintiau.
Un o’r cyfleoedd ymarferol yw rhaglen realiti rhithwir - gan ddefnyddio meddalwedd Archwiliwr Elfennau yr Amgylchedd Adeiledig Rhithwir CWIC (VBEEE) - â’r nod o gynyddu apêl y diwydiant adeiladu drwy wneud y broses adeiladu’n debyg i gêm. Cafodd y rhaglen ei threialu gan ddisgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol y Preseli yn Sir Benfro ar ddydd Gwener 19 Mawrth 2021, gyda’r sesiwn yn cael ei chynnal ar Gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi. Mae’r meddalwedd yn gadael i ddysgwyr archwilio a phrofi’r broses adeiladu drwy adeiladu amrywiaeth o adeiladau gwahanol yn rhithwir, ac ar ôl eu cwblhau mae’n gadael i’r dysgwyr gymharu cynaladwyedd y perfformiad a mesurau cost sydd wedi eu hadeiladu ynddyn nhw.
Dywedodd Laura Clarke, Rheolwr Rhanbarthol – Cymru y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB):
“Mae CIOB yn falch iawn i weld dulliau newydd ac arloesol o ymgysylltu â dysgwyr ifanc, ac mae ymagwedd gydweithredol CIOB a CWIC yn arwain gyda’r dulliau diweddaraf o ddod â’r diwydiant adeiladu’n fyw yn ystod y pandemig ac annog pobl ifanc i mewn i’r sector.”
Dywedodd Gareth Wyn Evans, Rheolwr yn CWIC:
“Cydweithio yw sail CWIC, ac mae’r fenter hon yn enghraifft arall o sut y mae ein perthynas strategol hirsefydlog gyda CIOB wedi sicrhau datrysiad arloesol arall i sbarduno addysg adeiladu a hyrwyddo rolau technegol a phroffesiynol yn y sector.”
“Ar gyfer addysg a’r diwydiant adeiladu mae hyfforddiant trochol o bell yn ddifyr, cost-effeithiol a diogel, ac mae hefyd yn sicrhau bod hyfforddeion yn cael y profiad ymarferol nad yw ar gael ar hyn o bryd. Tra bo COVID wedi cyfyngu ein mynediad at amgylcheddau gwaith byw, mae realiti rhithwir, yn enwedig drwy brosiect CONVERT, wedi galluogi dysgwyr i brofi syniadau, cydrannau a nodweddion cyn eu hymrwymo i adeiladu, lle cyn hynny mae’n bosibl mai dim ond mewn gwerslyfrau a chyflwyniadau ar-lein fydden nhw wedi dod ar draws y pwnc. Mae hyn yn digido cyflwyno gyda dyhead i newid canfyddiadau o’r sector adeiladu sy’n esblygu yng Nghymru.”
“Drwy archwilio, ymgyfarwyddo ac ymarfer yn ein hamgylchedd rhithwir, gellir sicrhau gwybodaeth a sgiliau heb boeni am ganlyniadau yn y byd real. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ddydd Gwener, pan fu dysgwyr ar ymweliad safle rhithwir gan dderbyn cyngor, arweiniad ac argymhellion gan arbenigwyr yn y diwydiant yn Hyb CIOB Cymru.”
Dywedodd Huw Thomas Arweinydd Cwricwlwm Coleg Ceredigion:
Roedd yn fraint cael cymryd rhan yn lansiad y Llwyfan Sgiliau rhithwir, roedd y dechnoleg yn wych. Penderfynodd CWIC a CIOB mai disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol y Preseli fyddai’r garfan gyntaf i brofi a defnyddio’r llwyfan cyffrous hwn. Rydym ni’n ffodus fel coleg ein bod wedi meithrin a chynnal cysylltiadau mor hanfodol gyda sefydliadau proffesiynol, ac mae’n wych cael gweld y digwy
Rydym ni hefyd wedi meithrin perthynas wych gyda busnesau allweddol yn yr ardal leol, ac roedd cael Wyn Harries Design and Management yn rhan o’r digwyddiad ac yn cynnig awgrymiadau allweddol drwy gydol y dydd yn ychwanegu at lwyddiant cyffredinol y digwyddiad. Mae carfan Blwyddyn 11 Ysgol y Preseli yn astudio cymhwyster Cynllunio a Chynnal yr amgylchedd adeiledig CBAC drwy ein rhaglen cyswllt Ysgolion. Bydd y digwyddiad hwn yn fuddiol iawn iddyn nhw wrth edrych ymlaen at yr asesiadau ym mis Mai 2021.