Delivering Skills & Training in Wales For Net Zero

Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Y Drindod yn chwarae ei rhan drwy gyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi i sicrhau bod ymrwymiad llywodraeth Cymru a’r DU i gyflawni Sero Net o allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050 ar y trywydd iawn.
Bydd angen creu’r hyn sy’n cyfateb i 350,000 o swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu erbyn 2028 a bydd angen dod o hyd i’r rhain drwy gyfuniad o swyddi newydd â sgiliau, gwell arbedion mewn rolau presennol, ac arloesi yn y ffordd mae’r diwydiant yn datgarboneiddio’r amgylchedd adeiledig. Dyna ganfyddiad allweddol Building Skills for Net Zero, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw (15 Mawrth).
Mae gwaith cydweithredol ar y gweill gan CWIC i sicrhau bod sector adeiladwaith Cymru eisoes yn gallu manteisio ar ddatrysiadau hyfforddi arloesol.
Mae menter Cymru gyfan dan arweiniad Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sy’n cynnwys Coleg Sir Gar, Coleg Ceredigion, Coleg y Cymoedd a Choleg Cambria yn sicrhau bod sector adeiladu Cymru yn gallu cyrchu datrysiadau hyfforddiant arloesol yn genedlaethol ac yn rhwydd ledled Cymru.
Mae model darpariaeth prif ganolfannau a lloerennau CWIC yn defnyddio deallusrwydd cyflogwyr i wneud yn siŵr bod y sgiliau iawn yn eu lle i fodloni galw’r diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn adweithiol ac yn rhagweithiol.
Mae lloerennau’n darparu llwybr datblygu gyrfa integredig rhwng gweithredwyr, masnachau a galwedigaethau adeiladu proffesiynol, o dan arweiniad a ddarperir gan yr Hwb yn Abertawe. Maent yn gweithio’n weithredol gyda’i gilydd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn yn cyfrannu at lefelau newydd o weithio cydweithredol rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU a darparwyr preifat) a’r diwydiant adeiladu.
Dywedodd Gareth Wyn Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru: “Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod ar y blaen yn datblygu a chyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi mewn adeiladu ers cael ei sefydlu ym mis Medi 2016. Mae Strategaeth Sgiliau Sero Net CWIC yn seiliedig ar lawer o ymchwil ac ymgysylltu helaeth gyda diwydiant yn ymwneud â’r ymdrech barhaus i sicrhau moderneiddio a datgarboneiddio yn y sector. Mae gan ddiwydiant yng Nghymru her sylweddol wrth weithio at Sero Net ac mae gwaith CWIC yn sicr yn dangos sut y gallwn ddatblygu ein diwydiant ac wynebu’r her gyda hyder.
“Rhan fawr o’r gwaith fydd codi sgiliau’r gweithlu presennol ac yn y dyfodol er mwyn iddyn nhw ddeall beth mae adeiladu Sero Net yn ei olygu i’r diwydiant.
“Er mwyn galluogi hyn, rydym ni yn CWIC, mewn cydweithrediad â Choleg Sir Gâr, yn cyflwyno nifer o fentrau sgiliau mewn meysydd fel Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Thechnoleg Dronau. Yn fwyaf diweddar, rydym ni wedi gweithio gyda nifer o ddarparwyr blaenllaw yn y sector i ddatblygu cyfres o raglenni Ôl-osod addas i Ddiwydiant yng Nghymru. Bydd y rhaglenni hyn yn fyw dros yr wythnosau nesaf gan gynnig mynediad uniongyrchol i Ddiwydiant yng Nghymru at y cyrsiau a’r cymwysterau a gyflwynir gan Arbenigwyr yn y Diwydiant. Mae hyn yn ein galluogi i chwarae ein rhan i ddiogelu sgiliau adeiladu at y dyfodol.”
Mae adeiladu yn y DU yn cyfrannu tua 40% o allyriadau’r DU yn ôl y Cyngor Adeiladu Gwyrdd (UKGBC) ac mae lleihau hyn i Sero Net yn her enfawr. Eto i gyd mae’r symudiad at adeiladu glanach, mwy gwyrdd, yn cynnig cyfleoedd mawr i wneud y diwydiant yn fwy deniadol i recriwtiaid newydd a chodi sgiliau’r gweithlu presennol.
Elfen hanfodol o gyflawni Sero Net fydd lleihau allyriadau carbon o adeiladau sy’n bodoli eisoes. Ar draws y DU mae 80% o’r adeiladau a gaiff eu defnyddio yn 2050 eisoes wedi’u hadeiladu a gallai’r rhain gynrychioli 95% o allyriadau’r amgylchedd adeiledig yn y dyfodol. Bydd lleihau allyriadau i Sero Net yn galw am ôl-osod hyd at 27 miliwn o adeiladau domestig a 2 filiwn o adeiladau annomestig.
Mae CITB wedi modelu’r proffil sgiliau sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni Sero Net gyda data’r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd. Mae hyn yn dangos erbyn 2028 y bydd gwaith datgarboneiddio ychwanegol wedi creu galw am 86,000 o reolwyr prosiect adeiladu, 33,000 o arbenigwyr amlen adeiladu a 59,000 o blymwyr ac arbenigwyr HVAC.
Daw’r cyfle hwn ochr yn ochr â phandemig COVID-19 a chynnydd disgwyliedig mewn niferoed di-waith o sectorau eraill. Mae hwn yn amser perffaith i’r diwydiant adeiladu ei osod ei hun fel cyrchfan gyrfa i bobl sydd wir yn dymuno gwneud gwahaniaeth.
Mae ymchwil CITB yn dangos bod modd lleihau allyriadau’r amgylchedd adeiledig i Sero Net os ceir buddsoddiad ar draws y diwydiant mewn sgiliau, diwygiadau polisi sgiliau pellgyrhaeddol ac ymgyrch recriwtio na welwyd ei debyg. Mae’r her yn fawr, ond felly hefyd y wobr, gan gynig cyfleoedd gyrfa newydd i filoedd o bobl wrth i ni ddod allan o gyfnod o argyfwng cenedlaethol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi CITB Steve Radley: “Mae Sero Net yn her enfawr i’r diwydiant adeiladu ond yn gyfle mwy fyth i greu diwydiant mwy cynhyrchiol sydd hefyd yn ddewis gyrfa mwy deniadol.
“Gallwn ei gyrraedd drwy fod yn glir am y sgiliau allweddol fydd eu hangen, sicrhau bod y cyrsiau a’r cymwysterau iawn ar gael i’w cyflwyno a mynd ati i fuddsoddi ynddyn nhw. Mae diwydiant eisoes yn cyflawni’r hyn sydd ei angen, ond mae angen i hyn ddigwydd ar raddfa fwy. Rhaid i’r sector hyfforddi weithredu nawr gan y bydd anghenion cyflogwyr yn newid yn gyflym. Mae ymagwedd gydlynol at sgiliau ar draws yr amgylchedd adeiledig yn hanfodol.
“Mae gan y Llywodraeth rôl allweddol hefyd wrth bennu’r hyn mae’n ei ddymuno a chreu’r ffrwd o alw fydd yn rhoi hyder i’r diwydiant fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ac i ddarparwyr fuddsoddi yn y cyrsiau sydd eu hangen i gyflwyno’r sgiliau hyn.”
Cyhoeddir adroddiad CITB i ategu Cynllun Sgiliau CLC, sy’n egluro gweithredu’r diwydiant i foderneiddio a datgarboneiddio sgiliau, a CO2nstructZero, rhaglen newid gydweithredol gan y diwydiant i gyflawni Sero Net.