Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS yn lansio partneriaeth i ddarparu hyfforddiant mewn Academi Sgaffaldio £1.5m newydd
Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS (CWIC) yn cydweithio gydag Alpha Safety o Dde Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ei Academi Sgaffaldio £1.5m newydd yn Abertawe a Chaerdydd.
Yn cael ei arwain gan CWIC mewn partneriaeth ag Alpha Training a Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru (CITB), bydd yr academi newydd yn agor yn nes ymlaen y mis yma.
Bydd y bartneriaeth ag Alpha Safety yn galluogi ystod o gyrsiau i gael eu darparu’n lleol er mwyn cwrdd ag anghenion y diwydiant adeiladu. Bu Alpha Safety yn un o’r prif hyfforddwyr adeiladwaith ar draws Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd myfyrwyr a leolir yng Nghymru sy’n dymuno cael hyfforddiant sgaffaldio helaeth yn gorfod teithio i Loegr neu’r tu hwnt i ennill yr ystod lawn o sgiliau.
Mae’r Academi Sgaffaldio yn gyfleuster pwrpasol a leolir yn Ffordd Fabian ym Mae Abertawe. Ynghyd â safle llai yng Nghaerdydd bydd ein partneriaeth yn gwasanaethu’r diwydiant adeiladu yng Nghymru gyda siop un stop ar gyfer hyfforddiant mynediad a rigio.
Bydd y grŵp cyntaf o ddysgwyr yr Academi yn cychwyn ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Mynediad i Weithrediadau a Rigio (Adeiladwaith) – Sgaffaldio. Bu’r diwydiant Cymreig yn aros yn hir am gwrs prentisiaeth yng Nghymru ac mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno ennill cymhwyster mewn sgaffaldio a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd ag ennill profiad galwedigaethol gwerthfawr wrth ochr eu hastudiaethau yn Academi CWIC.
Bydd y grŵp cyntaf o ddysgwyr yr Academi yn cychwyn ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Mynediad i Weithrediadau a Rigio (Adeiladwaith) – Sgaffaldio. Bu’r diwydiant Cymreig yn aros yn hir am gwrs prentisiaeth yng Nghymru ac mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n dymuno ennill cymhwyster mewn sgaffaldio a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd ag ennill profiad galwedigaethol gwerthfawr wrth ochr eu hastudiaethau yn Academi CWIC.
Ychwanegodd: “Mae’n bleser gan CWIC weithio gyda’r tîm yn Alpha Safety a bydd datblygiad y cyfleuster newydd hwn yn effeithio’n sylweddol ar uwchsgilio gweithwyr Cymreig o fewn y sector sgaffaldio.
Mae’r adeilad wedi cael adnewyddiadau gwerth tua £1.5miliwn, diolch i TRJ Construction a gweithio’n agos ag Alpha Safety, er mwyn creu Neuadd Fynediad 2,000 m2 sy’n cynnwys dosbarthiadau a chyfleusterau TG i ddarparu’r ystod lawn o hyfforddiant gweithio ar uchder i fyfyrwyr newydd, prentisiaid, pobl sy’n uwchsgilio, goruchwylwyr ac arolygwyr. Ceir naw parth hyfforddiant a phedwar dosbarth pwrpasol, un gyda chyfleusterau TG.
Meddai Paul Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr Alpha Safety: “Mae’n bleser ac yn fraint i fod wedi cael ein dewis gan PCYDDS a CWIC i fod yn bartneriaid iddynt ar y fenter hon, ac mae’n deyrnged i dîm Alpha y cydnabyddir ein bod yn barod ar gyfer yr her o ddatblygu sgiliau pobl sy’n gweithio yn y diwydiant pwysig hwn.”
Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn cwrdd â gofynion y diwydiant sgaffaldio yng Nghymru, bu CWIC mewn trafodaethau ag aelodau o’r Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC), gweithwyr a’r CITB.
Dwedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru: “Bydd yr Academi Sgaffaldio ddiweddaraf yn dechrau hyfforddi miloedd o ddysgwyr yn eu gwlad eu hun yn fuan. Edrychwn ymlaen at weithio ag Alpha Safety, sydd â statws Sefydliad Hyfforddiant Cydnabyddedig CITB, ac sy’n dod â phrofiad ac arbenigedd sylweddol i’r cyfleusterau hyn y mae gwir eu hangen.
“Mae CWIC yn ailddatgan ei ymrwymiad i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn cydweithrediad â chyflogwyr, darparwyr addysg a Llywodraeth Cymru.
“Mae CWIC eisoes wedi gwneud effaith anferth ar y sector yng Nghymru drwy ei phartneriaid ar draws y genedl, a bydd yr hwb yn SA1 yn helpu’r diwydiant i gyflawni ac ehangu ar ei uchelgeisiau.”
Mae ychwanegu’r ganolfan hyfforddiant sgaffaldio at Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn galluogi CWIC i adeiladu ar ddarpariaeth ddiweddar eu cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant hynod lwyddiannus sy wedi ymestyn dros y tair blynedd diwethaf.
Mae’r cyfnod hwn wedi gweld agos i 408 o weithgareddau yn cael eu darparu ar draws Cymru, gan gefnogi 691 o gyflogwyr Cymreig ac yn uwchsgilio dros 3,500 o staff y diwydiant adeiladu. Bydd CWIC yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol hon drwy barhau i gefnogi’r diwydiant adeiladu drwy ddarparu cyrsiau arloesol sy’n arwain y diwydiant o’i Hwb yn Abertawe, i’w cyflwyno ledled Cymru drwy ei rhwydwaith helaeth o bartneriaid. Mae gwybodaeth am gyrsiau a rhaglenni’r dyfodol ar gael yn www.cwic.wales
Mae gwybodaeth am gyrsiau a rhaglenni’r dyfodol ar gael ar www.cwic.wales