Delweddu dyfodol hyfforddiant adeiladu drwy Rith-Wirionedd a Realiti Estynedig
Mae CWIC a’u partneriaid yn arwain prosiect newydd £2 miliwn ar draws y DU i wella effeithlonrwydd a diogelwch gweithwyr yn y diwydiant adeiladu, ochr yn ochr â moderneiddio addysg adeiladu.
Enw’r prosiect yw CONVERT, ac mae’n cael ei ariannu’n rhannol gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) gan gynnig hyfforddiant adeiladu gyda thechnolegau trochi ac efelychwyr arloesol.
Mae modd defnyddio technolegau trochi i efelychu sefyllfaoedd a senarios y byd real, gan roi profiad a hyfforddiant ymarferol i weithwyr cyn mynd i safle gwaith – a helpu cyflogwyr i addysgu, cynllunio a gwella cynhyrchedd cyffredinol a diogelwch yr holl staff ar y safle.
Ym mis Medi 2017, cyhoeddodd CITB adroddiad ymchwil o’r enw ‘A new reality: immersive learning in construction,’ oedd yn amlygu manteision sylweddol dysgu trochol i gyflogwyr a gweithwyr yn ogystal â newid canfyddiad y diwydiant adeiladu i fuddsoddwyr a phobl ifanc.
Dywedodd Cyfarwyddwr Prosiect CONVERT, Gareth Evans;
“Mae prosiect CONVERT yn un o nifer o raglenni sydd newydd eu comisiynu sy’n peilota’r defnydd o Ddysgu Trochol mewn Adeiladu. Gyda chyd-ariannu gan CITB, bydd y partneriaid datblygu sy’n cynnwys Canolfan Arloesedd Construction Scotland, Kier UK ac Altrad UK, yn manteisio ar dechnolegau fel y rith-wirionedd, realiti estynedig ac efelychwyr diweddaraf i gyflwyno eu rhaglenni hyfforddi.
“Gall rhith-wirionedd osod gweithwyr mewn rhithfyd trochol lle mae modd archwilio a phrofi senarios lle mae diogelwch yn hanfodol. Yn y modd hwn gall hyfforddeion a staff fod yn barod at waith gyda chyfnodau paratoi byrrach, ac yn fwy cyfarwydd â phrotocolau ac arferion iechyd a diogelwch na thrwy ddulliau hyfforddi confensiynol.”
Bydd CWIC a’u partneriaid yn darparu rheolaeth gyffredinol i’r prosiect dros y rhaglen ddwy flynedd, gyda phedair ffrwd allweddol:
- Defnyddio dronau yn y diwydiant adeiladu – dan arweiniad Kier Construction Ltd.
- Peiriannu Pren a Chwistrellu Paent – dan arweiniad CWIC
- Gweithio ar Uchder – dan arweiniad Altrad UK
- Archwiliwr Elfennau’r Amgylchedd Adeiledig Rhithiol – dan arweiniad Canolfan Arloesedd Construction Scotland (CSIC)
Ochr yn ochr â chreu’r cynnwys, bydd CWIC yn creu’r seilwaith i alluogi diwydiant ac addysg i fanteisio ar dechnolegau o’r fath heb fuddsoddiad ariannol sylweddol.
Bydd y prosiect yn sefydlu chwe chanolfan rhagoriaeth fydd yn arwain ar hwyluso a dosbarthu’r caledwedd a’r meddalwedd hyfforddi.
Mae’r Canolfannau Rhagoriaeth wedi’u lleoli ar draws y DU fel a ganlyn:
- Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru
- Canolfan Arloesi Adeiladwaith yr Alban
- Coleg Adeiladu Leeds
- Coleg Dudley
- Coleg Bridgewater & Taunton
- Coleg Waltham Forest
Dywedodd Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-ganghellor (Sgiliau a Dysgu Gydol Oes), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, (Skills & Lifelong Learning), University of Wales Trinity Saint David said,
“Mae PCYDDS mor falch o fod yn cydweithio â phartneriaid diwydiannol sydd wedi hen ennill eu plwyf, i ddatblygu a darparu’r technolegau dysgu arloesol newydd hyn, sy’n dod i’r amlwg, a hynny mewn sector sy’n allweddol i economi’r wlad. Bydd y prosiect hwn yn cael effaith sylweddol ar ddatblygiad newydd-ddyfodiaid a chyflogeion presennol, ac yn arwain at welliannau o ran cynhyrchiant i'r sefydliadau hynny sy'n eu defnyddio."
Dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) Cymru: “Mae Canolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) yn trawsnewid hyfforddiant ledled Cymru. Cyn i CWIC agor, roedd yn rhaid i rai myfyrwyr adael Cymru a theithio i Loegr i ddysgu'r sgiliau adeiladu diweddaraf. Bellach, gall dysgwyr aros yn eu mamwlad a meithrin y sgiliau y mae cyflogwyr Cymru wedi dweud wrthym y mae eu hangen fwyaf. Mae enghreifftiau o'r sgiliau hyn yn cynnwys gweithio gyda thechnoleg, gweithgynhyrchu oddi ar y safle, ynghyd â hyfforddiant cynhwysfawr ar sgaffaldiau.
“Trwy gydweithio â phartneriaid ar draws y sbectrwm addysg a chyflogaeth, bydd CWIC yn darparu llwybrau gyrfa a fydd yn mynd â phobl ifanc i’r lefelau uchaf mewn adeiladu – newyddion da i bobl ifanc, newyddion da i’n cymunedau, a newyddion da i economi Cymru.”
Enghraifft Cynnwys