Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS yn ymuno â lansiad digidol prosiect Offsite Ready
Yfory (23 Ebrill), bydd Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) PCYDDS yn ffurfio rhan o lansiad digidol prosiect Offsite Ready, sef rhaglen hyfforddi bwysig i helpu i feithrin arfer gorau a sgiliau ym maes adeiladwaith oddi ar y safle.
Mae'r lansiad yn rhan o'r broses o gyflwyno'r rhaglen ledled y wlad, a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac a fydd yn cynnig ystod o adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim a digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Bwriedir i'r adnoddau hyn feithrin gallu yn system addysg a sgiliau y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod prifysgolion, colegau partner a darparwyr hyfforddiant mewn sefyllfa dda i ymateb i'r twf mewn adeiladu oddi ar y safle yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Offsite Ready yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, contractwyr, cyrff addysgol a sefydliadau arloesi blaenllaw ledled y diwydiant adeiladu. Bydd cyfres gynhwysfawr o fodiwlau hyfforddi hyblyg ar-lein yn sicrhau bod allbynnau'r prosiect yn hygyrch 'unrhyw bryd, yn unrhyw le', a byddant ar gael i'w harchebu a'u lawrlwytho o wefan prosiect Offsite Ready.
Bydd hyd at 600 o hyfforddwyr yn cael eu huwchsgilio yn y deunyddiau ledled tair cenedl, ochr yn ochr â rhaglen allgymorth mewn ysgolion uwchradd a chydag athrawon.
Mae CWIC wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r prosiect, a bydd yn cyflwyno'r rhaglen gyffrous ac addysgiadol hon ledled Cymru, a hynny ar y cyd â'i bartneriaid (Lloerennau) o bob cwr o Gymru.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan CSIC a'i gyflwyno mewn partneriaeth â CWIC, MOBIE (y Weinyddiaeth Adeiladu ac Addysg), Prifysgol Napier Caeredin, COGC (Coleg Dinas Glasgow) a COYO (Class of Your Own).
Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â nhw yn y rhaglen y mae'r canlynol: Swyddogaethau Dylunio, Swyddogaethau Caffael, Rheoli Costau, Rheoli Prosiectau a Safleoedd, Logisteg a Chydosod ar y Safle, a Masnachu Dilynol ac i Fyny'r Gadwyn.
Mae pecyn cymorth ar-lein ar gael i yn rhad ac am ddim addysgwyr, ac mae'n darparu ystod o adnoddau hygyrch sydd wedi'u cyd-ddylunio gan arbenigwyr diwydiant ac academaidd ym maes adeiladu oddi ar y safle. Mae'n darparu cyfle DPP cydnabyddedig i gyrchu, o bell, yr adnoddau diweddaraf i ddysgu'r ymarfer o adeiladu oddi ar y safle yn y ffordd orau.
Bydd y digwyddiad ar-lein, sef cynhadledd gan Offsite Ready, yn cynnwys y canlynol:
- Cyflwyniad i'r rhaglen gan rai o'n partneriaid arbenigol ar y prosiect
- Gweminar dan arweiniad ein hyfforddwyr, a fydd yn llywio cyfranogwyr trwy'r pecyn cymorth
- Ystafelloedd ymneilltuo, lle gellir sgwrsio a thrafod hyfforddiant oddi ar y safle ymhellach
Dywedodd Lindsay Richards o PCYDDS, Cyfarwyddwr Prosiect – Offsite Ready Cymru:
“Yn fy rôl o fod yn gyfarwyddwr prosiect rhanbarthol, mae hwn wedi bod yn brosiect hynod o gyffrous i fod yn rhan ohono. Bydd y cyfle i weithio gyda'r rhwydwaith arbenigol o bartneriaid prosiect ledled y Deyrnas Unedig, i sefydlu rhaglen hyfforddi bwysig i helpu i feithrin arfer gorau a sgiliau ym maes adeiladu oddi ar y safle, yn sicrhau bod Cymru yn Offsite Ready!”
Wrth sôn am lansiad digidol prosiect Offsite Ready, dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau CITB Cymru: “Mae hwn yn gydweithrediad pwysig ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac mae CITB yn falch iawn o fod yn ei ariannu ac o gael bod yn rhan ohono. Mae adeiladu oddi ar y safle yn creu ystod o anghenion a chyfleoedd ar gyfer sgiliau newydd hanfodol, gan gynnwys ym meysydd cydosod, technolegau digidol a gosod. Mae prosiect Offsite Ready yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir oherwydd bod ei fuddion moderneiddio niferus – o ran cynhyrchiant, iechyd a diogelwch, ac mewn perthynas â themâu amgylcheddol – hyd yn oed yn fwy amlwg yn yr amseroedd neilltuol hyn.”
Dilynwch ni hefyd ar Nod Parod Oddi ar y Safle i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ac am adnoddau defnyddiol eraill ym maes adeiladu oddi ar y safle.