CYFLEUSTER NEWYDD GWERTH £ 1.5M YN GOLYGU Y GALL DYSGWYR AROS YNG NGHYMRU I GAEL HYFFORDDIANT SGAFFALDAU LLAWN
Mae gwaith wedi dechrau ar yr unig gyfleuster hyfforddi sgaffaldau cynhwysfawr yn Ne Cymru. Dan arweiniad Canolfan Arloesedd Adeiladu Cymru (CWIC) mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi'r diwydiant Adeiladu Cymru (CITB), bydd y ganolfan newydd yn cael ei lleoli mewn cyfleuster wedi'i ddatblygu'n bwrpasol ar ffordd Fabian ym Mae Abertawe.
Mae'r cyfleuster newydd yn golygu na fydd yn rhaid i fyfyrwyr sy'n gweithio yng Nghymru ac sy'n dymuno cael hyfforddiant sgaffaldau helaeth deithio i Loegr neu du hwnt i ennill set lawn o sgiliau.
Mae'r adeilad yn cael ei ailwampio ar gost o ymron i £ 1.5miliwn ar hyn o bryd i greu neuadd fynediad o 2,000 m2 gan gynnwys ystafell ddosbarth a chyfleusterau TG. Y neuadd fynediad fydd yr unig gyfleuster a gymeradwyir gan gynllun cofnodi sgaffaldau'r diwydiant adeiladu (CISRS) yn Ne Cymru sy'n darparu'r ystod lawn o hyfforddiant ar uchder i newydd-ddyfodiaid, prentisiaid, uwch-weithwyr, goruchwylwyr ac arolygwyr.2 including classroom and IT facilities. The Access Hall will be the only Construction Industry Scaffolding Record Scheme (CISRS) approved facility in South Wales delivering the full range of working at height training to new entrants, apprentices, up-skillers, supervisors and inspectors.
O dan arweiniad cwmni hyfforddi sgaffaldau blaenllaw yn y DU, mae'r adeilad presennol yn cael ei adnewyddu i ofynion CISRS ac mae ganddo arwynebedd llawr mewnol o tua 2,000 metr sgwâr sy'n cynnwys naw bae hyfforddi a thair ystafell ddosbarth benodedig, ag un yn cynnwys cyfleusterau TG.
Yn ogystal, mae'r CWIC yn ceisio gweithio gydag aelodau’r Cydffederasiwn Mynediad a Sgaffaldau Cenedlaethol (NASC) i ddarparu canllawiau a chyfarwyddyd pellach wrth ddiwallu anghenion hyfforddi a datblygu'r diwydiant sgaffaldio yng Nghymru.
Meddai Gerald Naylor, Cyfarwyddwr CWIC, a leolir yn adeilad IQ Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn SA1 Glannau Abertawe:
“"Ar hyn o bryd, mae'n rhaid i unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno manteisio ar yr ystod lawn o hyfforddiant y bydd CWIC a CITB yn ei ddarparu o fewn y neuadd fynediad deithio y tu allan i Gymru i wneud hynny.
“Mae galw mawr am y rhaglenni hyn ac rydym wrth ein boddau bod gwaith yn mynd rhagddo ar y ganolfan newydd hon a fydd ar agor ddiwedd yr haf. Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i wireddu ein huchelgais ar gyfer y cyfleuster hwn sy'n gwella cynnig y CWIC i'r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn sicrhau bod cyflogwyr yn y sector yn gallu manteisio ar gymwysterau proffesiynol ac achrediad yn nes at adref ".
Dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr partneriaeth strategol CITB Cymru:
“"Mae'r cyfleuster sgaffaldau newydd yn enghraifft wych o sut mae buddsoddiad CITB yn CWIC yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr a chyflogwyr. Ers gormod o amser mae ein myfyrwyr wedi gorfod teithio y tu hwnt i Gymru i gael hyfforddiant sgaffaldau cynhwysfawr.
"Mae CWIC a CITB wedi gwrando ar y diwydiant ac wedi buddsoddi yn yr anghenion sgiliau hanfodol hyn. Bydd y cyfleuster newydd yn cynyddu nifer y dysgwyr sgaffaldau yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr lansio gyrfaoedd adeiladu boddhaus a gwobrwyol”..”
Dywedodd Barry Liles, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
“"Bydd datblygu'r cyfleuster newydd hwn yn cael effaith sylweddol ar uwchsgilio gweithwyr yn y diwydiant sgaffaldau.
"Mae gweithgareddau CWIC eisoes yn cynorthwyo cyflogwyr yn y diwydiant adeiladu ledled Cymru. Mae ein partneriaeth â CITB yn darparu hyfforddiant o'r radd flaenaf a rhaglenni pwrpasol ar gyfer y sector hynod bwysig hon i economi Cymru. Mae mynediad at arbenigedd o'r fath drwy'r CWIC yn rhoi'r hyder i gyflogwyr ddatblygu eu gweithwyr ac i recriwtio newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant".”.
Bydd ychwanegu canolfan hyfforddi sgaffaldau at ganolfan arloesi adeiladu Cymru yn caniatáu i'r CWIC adeiladu ar y gwaith o ddarparu eu cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant hynod lwyddiannus dros y tair blynedd diwethaf.
Mae'r cyfnod hwn wedi arwain at ddarparu bron 400 o weithgareddau ledled Cymru, gan gefnogi 674 o gyflogwyr yng Nghymru ac uwchsgilio dros 3,000 o staff yn y diwydiant adeiladu. Bydd CWIC yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol hon drwy barhau i gefnogi'r diwydiant drwy ddarparu cyrsiau arloesol sy'n arwain y diwydiant o'i ganolfan yn Abertawe, sy’n cael eu darparu ledled Cymru drwy ei rhwydwaith helaeth o raglenni a phartneriaid.