Academi Sgaffaldio £1.5m newydd Cymru yn derbyn achrediad gan y diwydiant
Mae Academi Sgaffaldio £1.5m Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS (CWIC) yn Abertawe newydd agor ac wedi ei chymeradwyo gan Gynllun Cofnodi Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu (CISRS) y Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC) fel Canolfan Hyfforddiant Achrededig.
Mae’r cyfleuster 9-parth pwrpasol a leolir ym Mae Abertawe, gyda chyfleuster llai yng Nghaerdydd, wedi ei chyllido gan Fwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru (CITB). Mae’n cael ei arwain gan CWIC mewn partneriaeth ag Alpha Safety Training a bydd yn siop un stop ar gyfer hyfforddiant mynediad a rigio yng Nghymru.
Yn ystod y broses asesu, asesir yr amodau hyfforddi cyffredinol i sicrhau eu bod yn addas, ac mae’r meini prawf i’w hystyried yn cynnwys gofynion ar gyfer:
- Lle agored 10 metr o uchder, sy’n addas ar gyfer codi a datgysylltu strwythur sgaffaldio.
- Dylid adeiladu strwythurau hyfforddi o fewn y ganolfan i adlewyrchu rhai amgylcheddau sgaffaldio, megis cyplau a sgaffaldau simneiau.
- Meddu ar y deunyddiau cywir sy’n cydymffurfio â’r safonau perthnasol.
- Sicrhau bod mannau yn cydymffurfio â meintiau penodol, er enghraifft, yr amlinellir parthau 70 metr sgwâr ar y llawr i’r timau sgaffaldio weithio y tu mewn iddynt.
- Rhaid i ddosbarthiadau hefyd gwrdd â meini prawf penodol, er enghraifft drwy sicrhau eu bod wedi eu goleuo a’u hawyru’n gywir. Yn ogystal â hyn, rhaid i ddosbarthiadau fod yn COVID-ddiogel, gan ganiatáu pellhau cymdeithasol a meini prawf COVID eraill.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r sawl sy’n mynychu cyrsiau hyfforddi sgaffaldio yn ein canolfan yn Abertawe?
Gall y rhai sy’n hyfforddi gyda ni yn Abertawe ddechrau eu prentisiaeth a llwybrau hyfforddi oedolion, gan gynnwys CISRS Rhan Un, CISRS COTS, CISRS Arolygu Sgaffaldio ac Ymwybyddiaeth Sgaffaldio.
Mae Academi Sgaffaldio CWIC eisoes wedi darparu gwasanaeth angenrheidiol a gwerthfawr i ddiwydiant adeiladu Cymru, dechreuodd ei charfan gyntaf o brentisiaid o bob rhan o Gymru eu taith tuag at gymhwyso yr wythnos ddiwethaf.
Meddai Gareth Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS): “Mae derbyn achrediad yn golygu y gall Academi Sgaffaldio CWIC bellach gynnig y ddarpariaeth CISRS sydd wir ei angen ac mae’r diwydiant yng Nghymru wedi bod yn galw amdani. Roedd yn wych i weld prentisiaid ysbrydoledig o bob rhan o Gymru yn cerdded drwy’n drysau ac yn dechrau ar eu taith i gymhwyso gyda ni.”
“Gyda’n hadeilad wedi cael gwaith ailwampio gwerth £1.5miliwn er mwyn creu Neuadd Fynediad 9 parth sy’n agos at 2,000 m2, roedd yn bleser derbyn adborth eithriadol oddi wrth ein Harchwiliwr CISRS ar ansawdd ein cyfleusterau. Mae’r rhain yn cynnwys neuadd hyfforddiant ymarferol at y dyfodol, 4 ystafell ddosbarth, ystafell fyfyrwyr a chyfleusterau TG. Rydym bellach yn gweithio’n agos â’n staff profiadol i ehangu i mewn i’r ystod lawn o hyfforddiant gweithio ar uchder i fyfyrwyr newydd, prentisiaid, pobl sy’n uwchsgilio, goruchwylwyr ac arolygwyr.”
Meddai Rhian Gleaves-Chilcott, rheolwr y Ganolfan: “Yr wythnos ddiwethaf agorwyd ein drysau i’n carfan gyntaf o fyfyrwyr, sydd bellach yn gweithio tuag at eu Prentisiaeth mewn Sgaffaldio. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan yr Academi mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn sicrhau bod yr hyfforddiant y byddant yn ei dderbyn yn berthnasol, yn ddiweddar, a bod cynnwys y cwrs yn darparu’r sgiliau sydd wir eu hangen gan gyflogwyr yn y diwydiant.”
Meddai Rhian Gleaves-Chilcott, rheolwr y Ganolfan: “Yr wythnos ddiwethaf agorwyd ein drysau i’n carfan gyntaf o fyfyrwyr, sydd bellach yn gweithio tuag at eu Prentisiaeth mewn Sgaffaldio. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud gan yr Academi mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn sicrhau bod yr hyfforddiant y byddant yn ei dderbyn yn berthnasol, yn ddiweddar, a bod cynnwys y cwrs yn darparu’r sgiliau sydd wir eu hangen gan gyflogwyr yn y diwydiant.”