Mae CWIC yn cynnig Hyfforddiant Uwch ar Wella Adeiladwaith Ôl-osod (ERFIT), sy'n anelu at ddarparu'r wybodaeth dechnegol a'r sgiliau ymarferol y mae eu hangen ar weithwyr adeiladu proffesiynol i gyflwyno gwelliannau o ansawdd uchel i ddeunydd insiwleiddio ac adeiladwaith.
Gyda'r ymdrech tuag at adeiladau net sero ac ynni-effeithlon, mae'r hyfforddiant hwn yn sicrhau eich bod chi'n deall sut mae inswleiddio, aerglosrwydd ac awyru'n rhyngweithio â mesurau effeithlonrwydd ynni eraill a thechnolegau adnewyddadwy.
I bwy mae'r cwrs?
- Gosodwyr deunydd Inswleiddio
- Cydlynwyr ac Aseswyr Ôl-osod
- Rheolwyr Safleoedd a Phrosiectau Adnewyddu
- Rheolwyr Prosiectau
- Gweithwyr adeiladu proffesiynol
- Contractwyr BBaCh sy'n gweithio ar Brosiectau Ôl-osod a Charbon Isel.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Cyflwyniad i Ôl-ffitio ac Adnewyddu Adeiladau – Egwyddorion allweddol ac arferion gorau.
- Deall Opsiynau Inswleiddio – Dewis a gosod deunydd inswleiddio yn effeithiol.
- Pontydd Thermol a Sut i'w Osgoi – Lleihau faint o wres sy'n cael ei golli a gwella effeithlonrwydd.
- Aerglosrwydd ac Awyru – Sicrhau ansawdd aer a pherfformiad ynni.
- Ffenestri, Drysau ac Atal Drafftiau – Gwella perfformiad adeiladwaith adeiladau.
- Ynni Adnewyddadwy a Pherfformiad Adeiladwaith – Y modd y mae systemau gwahanol yn rhyngweithio.
- Hanfodion Ffiseg Adeiladau – Offer i asesu ac optimeiddio perfformiad ynni.
- Rheoli Lleithder a'i Effaith – Atal anwedd a diraddio.
Y Tiwtoriaid
I gael rhagor o wybodaeth am y tiwtoriaid, cliciwch ar eu llun.


Fformat y Cwrs a Hyd
4 Hanner Diwrnodau Arlein - Theori a Chydymffurfiaeth gyda Alun Watkins
1 diwrnod ar y safle - Hyfforddiant ymarferol a chymhwysiad ymarferol gydag Ian Brown yn Abertawe.
Dyddiadau
6, 7, 13 & 14 Hydref (arlein)
Dydd Iau 16eg (diwrnod ymarferol)
How to book & Funding
Mae cyllid o 70% ar gael i gwmnïau sydd wedi cofrestru gyda’r CITB. I wirio a ydych chi’n gymwys i gael cyllid, cysylltwch â’ch cynghorydd CITB lleol.
Jon Davies Abertawe & De Powys
Ross Baker – RCT & NPT
Sheila Holmes Sir Caerfyrddin a Sir Benfro
John Evans Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili @ Merthyr
Ross Baker Caerdydd, Torfaen, Sir Fynwy a Casnewydd
If you are not a CITB registered company you could apply to the Welsh Government’s Flexible Skills Programme who offer 50% towards training costs based on eligible and pre course application.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, cysylltwch â julie.evans@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 01792 481273.
The course cost is £425 pp.
Diolch i'r cwmnïau canlynol am gefnogi'r prosiect gyda chyflenwadau deunyddiau


