Llwyrdrochiad ar gyfer Disgyblion Adeiladu
Mae realiti rhithwir yn darparu offeryn defnyddiol i hyfforddi dysgwyr adeiladu ifanc. Croesawodd Coleg Sir Benfro ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Taf, a gafodd y cyfle anarferol i brofi adeiladu o safbwynt rhithwir.
Diolch i brosiect arloesol seiliedig ar dechnoleg a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB), gwahoddwyd disgyblion Lefel 2, sy’n astudio cwrs Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig CBAC, i brofi, drostynt eu hunain, y feddalwedd a gynlluniwyd gan y diwydiant.
Arweinir CONVERT gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n galluogi dysgwyr o ysgolion uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch i gael mynediad at raglen hyfforddi sy'n helpu i wella ymgysylltiad dysgwyr a’u parodrwydd i ymuno â’r sector.
Yn ystod y digwyddiad, cawsant brofi nifer o adnoddau dysgu rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Y Rotor Pilot – rhaglen sydd wedi’i chynllunio i roi profiad peilot drôn rhithwir i ddysgwyr wrth iddynt arolygu safle adeiladu neu adeilad treftadaeth.
- Wood-Ed – efelychydd peiriannu pren sy'n defnyddio Realiti Estynedig i alluogi dysgwyr i ddefnyddio llif bwrdd, cylchlif, plaeniwr a mowldin gwerthyd (mewn modd diogel).
- Y rhaglen Working at Height/Scaffolding sy'n helpu'r defnyddiwr i gael ymdeimlad o beryglon gweithio yn y diwydiant sgaffaldwaith.
- Mae'r feddalwedd Virtual Built Environment Element Explorer (VBEEE) yn mynd â'r dysgwr trwy'r camau o godi adeilad, gan roi ystyriaeth i'r briff dylunio sy'n gwerthuso materion cynaliadwyedd, cost, gwydnwch a chysur.
Mae gan yr ysgol gyswllt ag Alun Griffiths Civil Engineering and Construction, a rhoddodd Swyddog Cyswllt Cyhoeddus y cwmni, Angharad Rosser, gyflwyniad craff ar y modd y maent yn defnyddio dronau yn eu gwaith. Cyfeiriodd at y gwaith byw y maent yn ei wneud ar brosiect gwella ffordd yr A40, sy'n cysylltu'r ysgol a'r coleg.
“Mae’n bwysig i’n tîm gwelliannau yr A40 ein bod yn gallu rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddeall y modd y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn chwarae rhan yn y gwaith o gynllunio ac adeiladu’r seilwaith yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio bob dydd. Roeddwn yn falch iawn o allu rhoi mewnbwn ar y modd y mae technoleg yn chwarae rhan yn ein gwaith ar y prosiect, a gobeithiaf ei fod wedi darparu cyd-destun byd go iawn ar gyfer eu hastudiaethau presennol”.
Roedd ymweliad yr ysgol â Choleg Sir Benfro yn un o’r cyfleoedd cyntaf ers y pandemig i'r disgyblion brofi prosiect dysgu ymarferol unigryw y tu allan i’w hamgylchedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Roedd Dominic La Trobe, athro adeiladu'r ysgol, yn awyddus i sicrhau bod ei ddisgyblion yn cael cyfle i dreialu'r cyfarpar CONVERT cyn gadael yr ysgol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
”Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau'r gweithdy CONVERT yn fawr iawn. Rhoddodd yr efelychiadau realiti rhithwir ddirnadaeth amhrisiadwy i feysydd a phroffesiynau yn y diwydiant adeiladu. Roedd y sesiynau'n galluogi'r myfyrwyr i gael profiad diogel o weithgareddau sydd, fel arall, yn rhai risg uchel, megis gweithio ar uchder a defnyddio peiriannau peryglus, a hefyd yn weithgareddau a fyddai'n hollol y tu hwnt i ddarpariaeth yr ystafell ddosbarth fel arfer,” meddai Dominic.
Mae Coleg Sir Benfro wedi elwa o fenthyg y cyfarpar dros yr wythnosau diwethaf. Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu ac Addysg Uwch: “Roedd y dysgwyr a'r athrawon yn y Coleg wedi mwynhau'r profiad o ddefnyddio’r dechnoleg ddyfodolaidd yn fawr iawn, yn ogystal â’r dysgu a ddaeth yn sgil y cyfarpar rhyngweithiol a’r amgylchedd rhithwir. Roedd y dysgwyr wedi elwa’n arbennig o allu defnyddio’r fainc efelychu peiriannu pren rithwir heb y perygl cynhenid o ddefnyddio’r cyfarpar yn bersonol”.
“Mae'r prosiect CONVERT yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr gael blas ar y modd y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio mewn adeiladu. Wrth i ni edrych ymlaen at gyflwyno cymwysterau sgiliau digidol newydd yr hydref hwn, mae cymryd rhan yn y prosiect hwn yn amserol iawn,” meddai Julie Evans, rheolwr y prosiect.
Mae adnoddau dysgu CONVERT ar gael i'w benthyca gan CWIC yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â Julie ar 01792 481273/julie.evans@uwtsd.ac.uk i gael gwybod sut y gall eich dysgwyr elwa.