Mae Wood-Ed yn system hyfforddi realiti rhithwir sy'n galluogi myfyrwyr i brofi 4 math gwahanol o beiriant;

  • cylchlif,
  • llif rhwygo,
  • plaeniwr arwynebau a
  • mowldiwr gwerthyd

a hynny mewn modd diogel heb unrhyw risg o anaf! Mae'n helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ac i feithrin hunanhyder wrth ddefnyddio peiriannau go iawn.

Mae'r Efelychydd Peiriant Gwaith Coed yn defnyddio synwyryddion symudiadau a realiti cymysg i alluogi'r dysgwr i ryngweithio â phob un o'r 4 peiriant gwaith coed. Mae gan bob peiriant dasg bywyd go iawn y gofynnir i'r dysgwyr ei chwblhau, sy'n rhoi eu dysgu mewn cyd-destun yn ogystal â'u galluogi i ymarfer sgiliau bywyd go iawn mewn modd diogel. Gallwch weld y modd y mae'n gweithio trwy wylio'r fideo.

Mae'r Wood-Ed ar gael i'w fenthyg yn rhad ac am ddim i gynorthwyo wrth addysgu myfyrwyr adeiladu mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Cysylltwch â Julie Evans ar 01792 481273 i drefnu.
cyCymraeg
Verified by ExactMetrics