Y Manylion
Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r cysyniad o dechnoleg adnewyddadwy, a'r ystyriaethau sy'n gysylltiedig â'i gweithredu yn y byd modern.
Bydd prif ffocws y sesiwn ar Awyru Mecanyddol gyda System Adfer Gwres (MVHR), system sy'n cylchredeg aer ffres wedi'i hidlo i mewn i adeilad gan arbed ynni, a'i phwysigrwydd ar gyfer y dyfodol. Bydd y dysgwyr yn trafod ansawdd aer mewnol, a bydd cyfle iddynt adeiladu eu huned MVHR eu hunain.
Bydd ystyried y mathau gwahanol o bwmp gwres sydd ar gael yn rhan o'r drafodaeth.
Bydd y sesiwn hefyd yn cyffwrdd ar y cemegion sy’n cael eu defnyddio mewn technoleg fel rhan o’r system MVHR, h.y. protocolau Nwyon Tŷ Gwydr (GHG) a'r offer sydd ar gael i gyfrifo allyriadau nwyon tŷ gwydr; yn ogystal â lefel yr oerydd sydd wedi'i gynnwys mewn pympiau gwres o'r aer, ac ati.
Arweinir y sesiwn hon gan Ian Brown, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.
Amcanion Dysgu
Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:
-
- Technoleg adnewyddadwy
- Awyru Mecanyddol gyda System Adfer Gwres (MVHR)
- Ansawdd aer mewnol
- Pympiau gwres
- Nwyon tŷ gwydr
Gwybodaeth am Ian
Mae’r darlithydd adeiladu Ian Brown yn arbenigwr ar adeiladu cynaliadwy ac yn rheolwr prosiectau sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae ganddo lygad craff ar y dyfodol, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys adeiladu byrnau gwellt, adeiladu o ddeunydd gwastraff, a chael ysbrydoliaeth o siapiau a ffurfiau byd natur.
Ar hyn o bryd mae’n Uwch-ddarlithydd ym mhynciau portffolio adeiladu yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Ian hefyd yn gefnogwr brwd o Straw Building UK (Straw Bale Building UK gynt), ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysgu myfyrwyr y gall natur lywio dyluniad yn y dyfodol, a bod prosiectau ecoadeiladu yn ddewis cynaliadwy yn lle ddulliau adeiladu traddodiadol.