Y Manylion

Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno'r dysgwyr i hanfodion Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), sef arf pwerus i'ch galluogi i ddeall rhagor am y modd y mae ein hamgylcheddau'n ymddwyn trwy fapio gofodol a dadansoddi tueddiadau cysylltiedig.

Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i feddalwedd mynediad agored rad ac am ddim, a'r dulliau sylfaenol sy'n ofynnol i gynhyrchu mapiau digidol a defnyddio offer dadansoddi geo-ofodol.

Arweinir y sesiwn hon gan Alisdair Cunningham, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.

Gwybodaeth am Alisdair

Fel gwyddonydd synhwyro o bell, mae Alisdair yn arbenigo mewn echdynnu gwybodaeth o synwyryddion arsylwi'r ddaear er mwyn ei defnyddio ar gyfer materion y byd go iawn sy'n gofyn am wybodaeth amserol i fonitro adnoddau. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn y byd academaidd ac wyth mlynedd mewn diwydiant fel ymgynghorydd amgylcheddol arbenigol, mae Alisdair wedi magu profiad diwydiannol amhrisiadwy, yn bennaf wrth gymhwyso data aml-amser, aml-sbectrol i feysydd amrywiol (coedwigaeth, amaethyddiaeth, ansawdd dŵr, a phrosiectau seilwaith). Gall Alisdair hefyd ymgorffori ffynonellau data eraill yn ôl yr angen, gan gynnwys cynhyrchion sy'n deillio o SAR, a chynhyrchion lidar.

Mae’n Uwch-ddarlithydd ar y cwrs Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sefydlu cysylltiadau â thechnegau cyfoes o’r radd flaenaf, arferion academaidd, a phrofiad blaenorol yn y diwydiant.

a.cunningham@uwtsd.ac.uk

 

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics