Sessions can be arranged on Thursdays.

Y Manylion

Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r cysyniad o ddyluniad amlenni adeiladau da. Dangosir iddynt arwyddocâd amlen adeiladu o ran effeithlonrwydd ynni, rheoli lleithder, a chysur y preswylwyr Bydd egwyddorion trosglwyddo gwres (dargludiad, darfudiad, pelydriad) yn cael eu hegluro, yn ogystal â'r modd y gall y camau hyn effeithio ar berfformiad adeiladau.

Bydd y mathau gwahanol o adeiladau a'r deunyddiau nodweddiadol a ddefnyddir yn cael eu hegluro i'r dysgwyr. Trafodir rôl pob cydran yn yr amlen adeiladu, ynghyd â'r modd y maent yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu insiwleiddiad, ymwrthedd i'r tywydd, a chymorth adeileddol. Dangosir i'r dysgwyr sut i wybod pa ddeunyddiau sy'n fwy cynaliadwy nag eraill, a sut i sgorio mathau gwahanol o insiwleiddiad ar gyfer lefelau effeithlonrwydd gwell.

Bydd y cwrs yn trafod pwysigrwydd strategaethau rheoli lleithder i atal ymwthiad dŵr a thyfiant llwydni. Bydd strategaethau dylunio clyfar ynni-effeithlon hefyd yn cael eu hegluro, megis lleihau pontio thermol, aerglosrwydd, optimeiddio lefelau inswleiddio, a dewis ffenestri a drysau perfformiad uchel.

Arweinir y sesiwn hon gan Ian Brown, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.

Amcanion Dysgu

Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:

    • Deunydd Inswleiddio
    • Rhwystr aer
    • Rhwystr anwedd/gwynt
    • Pontio thermol
    • U-werthoedd

Bydd y modiwl hefyd yn nodi'r deunyddiau gwahanol a ddefnyddir mewn amlenni adeiladu, ac yn trafod strategaethau dylunio rheoli lleithder ac ynni-effeithlon.

Gwybodaeth am Ian

Mae’r darlithydd adeiladu Ian Brown yn arbenigwr ar adeiladu cynaliadwy ac yn rheolwr prosiectau sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae ganddo lygad craff ar y dyfodol, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys adeiladu byrnau gwellt, adeiladu o ddeunydd gwastraff, a chael ysbrydoliaeth o siapiau a ffurfiau byd natur.

Ar hyn o bryd mae’n Uwch-ddarlithydd ym mhynciau portffolio adeiladu yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Ian hefyd yn gefnogwr brwd o Straw Building UK (Straw Bale Building UK gynt), ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysgu myfyrwyr y gall natur lywio dyluniad yn y dyfodol, a bod prosiectau ecoadeiladu yn ddewis cynaliadwy yn lle ddulliau adeiladu traddodiadol.

i.brown@uwtsd.ac.uk

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics