Mae'r Rotor Pilot yn galluogi dysgwyr i archwilio dronau, a’u defnydd ym maes adeiladu, trwy sawl modiwl. Trwy ddefnyddio'r dechnoleg realiti rhithwir ddiweddaraf a rheolyddion safon y diwydiant, gall dysgwyr brofi egwyddorion hedfan sylfaenol, yn ogystal â chyflawni tasgau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant.
Gall dysgwyr weithio trwy 4 modiwl sy'n cynnwys;
- cyflwyniad i'r modd y mae dronau'n cael eu hadeiladu
- hyfforddiant hedfan sylfaenol
- gofynion ar gyfer gweithredu diogel
- archwilio adeilad treftadaeth.
Cliciwch ar ein Canllaw Defnyddwyr i gael rhagor o wybodaeth.