Y Manylion
Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i'r modd y mae dyluniad adeiladau yn effeithio ar ddynameg llif dŵr a hydroleg leol. Bydd yr archwiliad hwn yn cynnwys graddfeydd amrywiol, o dai unigol i lefel y stryd, gan ddatgelu patrymau symudiad dŵr hynod ddiddorol a chywrain.
Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r egwyddorion o ran y modd y gall datblygiadau trefol unigol effeithio ar ddynameg llif dŵr leol, yn ogystal â goblygiadau ledled y dalgylch o ran patrymau llif a'r risg o lifogydd. Bydd y dysgwyr yn deall ac yn sylweddoli'r modd y gall datblygiadau i fyny'r afon effeithio ar ardaloedd i lawr yr afon, a'r modd y mae tirweddau trefol yn siapio patrymau llif dalgylchoedd.
Bydd y blwch tywod yn cynnwys tirwedd wedi'i argraffu'n 3D, megis cefndeuddwr lleol neu ddalgylch dŵr lleol megis cwm Tawe, lle gall y defnyddwyr ryngweithio ag amrywiol elfennau. Gallant sythu segmentau'r afon, ychwanegu neu ddileu coetiroedd, a chyflwyno ardaloedd trefol i arsylwi ar ganlyniadau'r model o ran y llif dŵr, gan ddarparu profiad dynamig ac addysgol.
Arweinir y sesiwn hon gan Alisdair Cunningham, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.
Amcanion Dysgu
Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn egluro cysyniadau hydroleg, dynameg dalgylchoedd, a draeniad trefol. Bydd yn cyflwyno cysyniadau dylunio dalgylch cyfan, lle mae datblygiadau'n ystyried yr effaith gyfunol ar hydroleg y dalgylch a'i ddylanwad ar y risg o lifogydd a llygredd.
Gwybodaeth am Alisdair
Fel gwyddonydd synhwyro o bell, mae Alisdair yn arbenigo mewn echdynnu gwybodaeth o synwyryddion arsylwi'r ddaear er mwyn ei defnyddio ar gyfer materion y byd go iawn sy'n gofyn am wybodaeth amserol i fonitro adnoddau. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn y byd academaidd ac wyth mlynedd mewn diwydiant fel ymgynghorydd amgylcheddol arbenigol, mae Alisdair wedi magu profiad diwydiannol amhrisiadwy, yn bennaf wrth gymhwyso data aml-amser, aml-sbectrol i feysydd amrywiol (coedwigaeth, amaethyddiaeth, ansawdd dŵr, a phrosiectau seilwaith). Gall Alisdair hefyd ymgorffori ffynonellau data eraill yn ôl yr angen, gan gynnwys cynhyrchion sy'n deillio o SAR, a chynhyrchion lidar.
Mae’n Uwch-ddarlithydd ar y cwrs Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sefydlu cysylltiadau â thechnegau cyfoes o’r radd flaenaf, arferion academaidd, a phrofiad blaenorol yn y diwydiant.