Sessions can be arranged on Thursdays.

Y Manylion

Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i’r angen i ddefnyddio deunyddiau adeiladu cynaliadwy yn yr 21ain ganrif, sy’n dod o ffynonellau lleol ac wedi’u gweithgynhyrchu’n lleol, ac sy’n cael eu cynhyrchu gan ddefnyddio ynni carbon isel.st century, which are locally sourced and locally manufactured, and which are produced using low carbon energy.

Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi sylw i brosesau gweithgynhyrchu cynaliadwy, yn arbennig mewn perthynas â deunyddiau wedi'u hailgylchu. Mae'r pynciau trafod perthnasol eraill yn cynnwys ystyried ailgylchu deunyddiau ar ôl y defnydd cychwynnol a chyfyngu ar wastraff yn ystod gwaith adeiladu. Bydd y myfyrwyr yn archwilio'r modd y mae cynhyrchion sy'n cynnwys cyfansoddion organig anweddol (VOCs) yn allyrru’r cyfansoddion hyn trwy broses o ollwng nwy, a'r modd y gall eu lefelau godi'n gyflym mewn ardaloedd cyfyng.

Bydd egwyddorion economi gylchol, argaeledd deunyddiau, a'r gallu i'w adnewyddu yn cael eu trafod yn y sesiwn hon.

Arweinir y sesiwn hon gan Ian Brown, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.

Amcanion Dysgu

Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:

  • Egwyddorion economi gylchol
  • Cynaliadwy (gan gyfeirio at adeiladu)
  • Prosesau gweithgynhyrchu cynaliadwy
  • Deunyddiau wedi'u hailgylchu

Gwybodaeth am Ian

Mae’r darlithydd adeiladu Ian Brown yn arbenigwr ar adeiladu cynaliadwy ac yn rheolwr prosiectau sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae ganddo lygad craff ar y dyfodol, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys adeiladu byrnau gwellt, adeiladu o ddeunydd gwastraff, a chael ysbrydoliaeth o siapiau a ffurfiau byd natur.

Ar hyn o bryd mae’n Uwch-ddarlithydd ym mhynciau portffolio adeiladu yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Ian hefyd yn gefnogwr brwd o Straw Building UK (Straw Bale Building UK gynt), ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysgu myfyrwyr y gall natur lywio dyluniad yn y dyfodol, a bod prosiectau ecoadeiladu yn ddewis cynaliadwy yn lle ddulliau adeiladu traddodiadol.

i.brown@uwtsd.ac.uk

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics