A hithau'n beiriannydd dan hyfforddiant, mae Rachel wedi gweithio ar amryw o brosiectau trawiadol, gan gynnwys ysbyty plant newydd gwerth £50 miliwn yng Nghaerdydd, a Phrosiect Ynni Gwyrdd Margam, sy'n werth £160 miliwn.

Mae Rachel wedi cwblhau ei haelodaeth o'r Sefydliad Adeiladu Siartredig, ac mae'n llysgennad ar gyfer CITB. Yn ei rôl bresennol, mae'n goruchwylio prosiectau, gan dreialu a phrofi sgiliau sero net, gan gynnwys Technoleg Ôl-osod, Pren Cymru, Cynllunio ar gyfer Gweithgynhyrchu, a Dulliau Modern o Adeiladu.

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics