Y Manylion

Nod y modiwl hwn yw amlygu pwysigrwydd defnyddio golau dydd mewn lleoliadau trefol a phreswyl, gan geisio dangos y modd y gallwn gyflawni canlyniadau golau dydd gwell trwy ddylunio solar goddefol, sy'n rhan annatod o ddylunio pensaernïol mewn prosiectau o bob maint.

Gall dyluniad solar goddefol bennu ystod eang o ffactorau, yn amrywio o enillion/golledion solar o ran perfformiad ynni, opsiynau ynghylch ffenestri gwydr ar gyfer cysur preswylwyr ac effeithiau gofodol, yn ogystal â rheoli potensial o ran gorboethi.

Heb ystyried y defnydd o olau dydd mewn cynllun, gall unrhyw un o'r ffactorau hyn greu gofod anghyfforddus ac anaddas o bosibl i'w ddefnyddwyr.

Gyda chymorth modelau ffisegol a mapio digidol, mae’r modiwl yn trafod effeithiau’r haul ar wahanol strydluniau trefol, a’r strategaethau amrywiol y gellir eu defnyddio i reoli golau dydd mewn lleoliadau masnachol a phreswyl, a hefyd yn ystyried effaith yr haul ar amgylcheddau mewnol ac allanol.

Arweinir y sesiwn hon gan Elanor Alun, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd. Ryan Stuckey, Senior Lecturer, School of Architecture, Construction and Environment.

Amcanion Dysgu

Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:

    • Golau naturiol
    • Parthau cysur
    • Cysgod
    • Gogwydd adeiladau

Gwybodaeth am Ryan

Ryan A Stuckey B.A.(Hons) Arch, PG Dip Arch, PG Dip (Prac), ARB, RSAW, RIBA

Mae Ryan Stuckey yn bensaer a chanddo dros 25 mlynedd o brofiad fel ymarferydd a phartner yn Allan Stuckey Architects. Symudodd Ryan i fyd addysg bensaernïol yn llawn-amser wyth mlynedd yn ôl, gan ddechrau yn ei swydd fel Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd yn PCYDDS. Arbenigedd addysgu Ryan yw Ymarfer a Rheolaeth Broffesiynol, ac mae hefyd yn arwain stiwdio ddylunio yr ail flwyddyn, ac yn cefnogi myfyrwyr y drydedd flwyddyn gyda'u traethawd estynedig ar y Rhaglen Bensaernïaeth Israddedig.

Mae’r ffaith iddo weithio fel ymarferydd yn rhoi cryfder a dyfnder gwybodaeth i arwain ein darpar benseiri, ac mae’n credu “y dylai penseiri edrych i’r dyfodol gan gadw llygad ar y gorffennol”, ac y gallwn ddysgu o hyn i adeiladu dyfodol gwerthfawr a chynaliadwy.

Ac yntau'n Gyn-lywydd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW), ac yn Aelod o Gyngor RIBA am 5 mlynedd, mae Ryan yn frwd dros gynnig cyfle i fyfyrwyr o Gymru astudio pensaernïaeth yng Nghymru, gan ddarparu talent frodorol i gefnogi a datblygu arferion lleol wedi hynny.

r.stuckey@uwtsd.ac.uk

 

cyCymraeg
Verified by ExactMetrics