Y Manylion
Bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r amrywiol ddulliau modern o adeiladu sy'n cael eu datblygu, eu gwella a'u haddasu'n barhaus o ran cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd.
Mae dulliau adeiladu modern (MMC) neu ‘adeiladu clyfar’ yn ffordd gyflym o ddarparu adeiladau newydd, trwy wneud y mwyaf o effeithlonrwydd deunyddiau ac adnoddau dynol. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar dechnegau adeiladu oddi ar y safle, megis masgynhyrchu a chydosod yn y ffatri, y gellir eu defnyddio i greu cartrefi cyfan gan ddefnyddio modiwlau a adeiladwyd yn y ffatri.
Dangosir i'r myfyrwyr bod y dull hwn yn fanteisiol am ei fod yn cyflymu'r broses gyflenwi, yn lleihau costau llafur, yn dileu gwastraff diangen, ac yn gwella ansawdd. Bydd y trafodaethau'n canolbwyntio ar a yw MMC mewn gwirionedd yn adlewyrchiad o arloesedd ym maes adeiladu, neu a yw'n broses lleihau adnoddau yn unig.
Bydd y sesiwn yn cyffwrdd â “dadadeiladedd” adeiladau, h.y. adeiladu trwy ddechrau gyda’r pwynt olaf, sy'n gofyn am ddatgymalu adeiladau fesul darn, gan osgoi difrod trwy dynnu'n ofalus yr hyn y mae ei angen.
Amcanion Dysgu
Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:
- Dulliau Adeiladu Modern (MMC)
- Adeiladu oddi ar y safle
- Arloesi ym maes adeiladu
- Dadadeiladedd adeiladau
Arweinir y sesiwn hon gan Ian Brown, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.
Gwybodaeth am Ian
Mae’r darlithydd adeiladu Ian Brown yn arbenigwr ar adeiladu cynaliadwy ac yn rheolwr prosiectau sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae ganddo lygad craff ar y dyfodol, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys adeiladu byrnau gwellt, adeiladu o ddeunydd gwastraff, a chael ysbrydoliaeth o siapiau a ffurfiau byd natur.
Ar hyn o bryd mae’n Uwch-ddarlithydd ym mhynciau portffolio adeiladu yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Ian hefyd yn gefnogwr brwd o Straw Building UK (Straw Bale Building UK gynt), ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysgu myfyrwyr y gall natur lywio dyluniad yn y dyfodol, a bod prosiectau ecoadeiladu yn ddewis cynaliadwy yn lle ddulliau adeiladu traddodiadol.