Y Manylion
Bydd y cwrs byr hwn yn ymdrin â hanfodion sut i gynnal arolygon ecolegol – pa ddata i chwilio amdanynt, pa dechnegau i'w defnyddio, a sut i ddewis yr hyn sy'n iawn ar gyfer eich prosiect. Bydd y myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar un neu ddwy dechneg, yn dibynnu ar y tywydd.
Mae’r cwrs hwn yn archwilio'r modd y gellir integreiddio’r ddau â’i gilydd yn lle hynny, fel y gallwn ddiwallu ein hanghenion adeiladu yn y dyfodol gan warchod y byd naturiol ar yr un pryd. Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r cysyniadau sylfaenol o sut y gellir cyfuno'r amgylcheddau adeiledig a naturiol, yn darganfod pa ddata y gallai fod ar brosiect ei angen, a byddant yn rhoi cynnig ar rai technegau arolygu sylfaenol drostynt eu hunain.
Arweinir y sesiwn hon gan Elanor Alun, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd
About Elanor
Treuliodd Elanor bedair blynedd yn gweithio ym maes rheoli cadwraeth a rheoli tir cyn symud yn ôl i'r byd academaidd. Mae'n arbenigo mewn bioamrywiaeth, ecoleg, rheoli tir a newid hinsawdd, a hyfforddodd mewn technegau arolygu ecolegol ym Mhrifysgol Rhydychen; mae ei gwaith cyhoeddedig yn bennaf ym maes adennill tir a'i effeithiau ar fioamrywiaeth. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel darlithydd ar gwrs Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd PCYDDS.