Y Manylion
Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r cysyniad o drawsyrru thermol, a elwir hefyd yn U-werth, a dangosir iddynt sut y gall adeilad berfformio.
Bydd y sesiwn yn trafod y ffaith y dylid ystyried ffabrig yr adeilad fel y dewis dylunio pwysicaf, a bydd yn archwilio'r dull Gwneuthuriad yn Gyntaf ochr yn ochr â gwerthuso perfformiad yr adeilad, h.y. cit pwls, Heat3D, thermograffeg.
Dangosir i'r myfyrwyr sut i fodelu a chyfrifo perfformiad adeiladu
Arweinir y sesiwn hon gan Ian Brown, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.
Amcanion Dysgu
Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn diffinio termau allweddol megis:
- Gwerthuso perfformiad adeiladau
- U-werthoedd
- Pympiau Gwres Gwneuthuriad yn Gyntaf
Gwybodaeth am Ian
Mae’r darlithydd adeiladu Ian Brown yn arbenigwr ar adeiladu cynaliadwy ac yn rheolwr prosiectau sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant adeiladu. Mae ganddo lygad craff ar y dyfodol, ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys adeiladu byrnau gwellt, adeiladu o ddeunydd gwastraff, a chael ysbrydoliaeth o siapiau a ffurfiau byd natur.
Ar hyn o bryd mae’n Uwch-ddarlithydd ym mhynciau portffolio adeiladu yr Ysgol Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Ian hefyd yn gefnogwr brwd o Straw Building UK (Straw Bale Building UK gynt), ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn addysgu myfyrwyr y gall natur lywio dyluniad yn y dyfodol, a bod prosiectau ecoadeiladu yn ddewis cynaliadwy yn lle ddulliau adeiladu traddodiadol.