Hoffech chi ddysgu gan arbenigwyr mewn perfformiad adeiladau ac adeiladu cynaliadwy sut i ôl-osod i safon uchel?
Ym mis Ebrill, byddwn yn cynnal ein pumed cwrs 3 diwrnod, y Rhaglen Hyfforddiant Gwella Ffabrig Ôl-osod Gwell (ERFIT) sydd wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth dechnegol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol adeiladu i gyflawni gwelliannau inswleiddio a ffabrig o ansawdd uchel a gymeradwywyd gan Ymddiriedolaeth Passivhaus.

Gyda'r ymdrech tuag at adeiladau net sero ac ynni-effeithlon, mae'r hyfforddiant hwn yn sicrhau eich bod chi'n deall sut mae inswleiddio, aerglosrwydd ac awyru'n rhyngweithio â mesurau effeithlonrwydd ynni eraill a thechnolegau adnewyddadwy.
I bwy mae'r cwrs?
- Gosodwyr deunydd Inswleiddio
- Cydlynwyr ac Aseswyr Ôl-osod
- Rheolwyr Safleoedd a Phrosiectau Adnewyddu
- Rheolwyr Prosiectau
- Gweithwyr adeiladu proffesiynol
- Contractwyr BBaCh sy'n gweithio ar Brosiectau Ôl-osod a Charbon Isel.
Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
- Cyflwyniad i Ôl-ffitio ac Adnewyddu Adeiladau – Egwyddorion allweddol ac arferion gorau.
- Deall Opsiynau Inswleiddio – Dewis a gosod deunydd inswleiddio yn effeithiol.
- Pontydd Thermol a Sut i'w Osgoi – Lleihau faint o wres sy'n cael ei golli a gwella effeithlonrwydd.
- Aerglosrwydd ac Awyru – Sicrhau ansawdd aer a pherfformiad ynni.
- Ffenestri, Drysau ac Atal Drafftiau – Gwella perfformiad adeiladwaith adeiladau.
- Ynni Adnewyddadwy a Pherfformiad Adeiladwaith – Y modd y mae systemau gwahanol yn rhyngweithio.
- Hanfodion Ffiseg Adeiladau – Offer i asesu ac optimeiddio perfformiad ynni.
- Rheoli Lleithder a'i Effaith – Atal anwedd a diraddio.
Y Tiwtoriaid
I gael rhagor o wybodaeth am y tiwtoriaid, cliciwch ar eu llun.


Fformat y Cwrs a Hyd
4 Hanner diwrnod ar-lein - Theori a Chydymffurfiaeth gyda Alun Watkins. Kalm Consultancy
1 Diwrnod Arlein - Hyfforddiant ymarferol a chymhwysiad ymarferol gydag Ian Brown, uwch ddarlithydd, Adeiladu Cynaliadwy, PCYDDS, Abertawe.
Dyddiadau
Sut i archebu a chyllido
Mae cyllid o 50% ar gael i gwmnïau sydd wedi cofrestru gyda’r CITB. I wirio a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â’ch cynghorydd CITB lleol;
Jon Davies / 07824 865551 – Abertawe & De Powys
Ross Baker / 07786 334801 – RCT & NPT
Sheila Holmes / 07350 394796 – Sir Caerfyrddin & Sir Benfro
John Evans 07748 238 704 – Pen y Bont, Blaenau Gwent, Caerffili & Merthyr Tydful
Harry Paterson / 07353 098301 - Caerdydd, Sir Fynwy @ Chyngor Dinas Casnewydd
Os nad ydych chi'n gwmni cofrestredig gyda CITB, gallech wneud cais i Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru sy'n cynnig 50% tuag at gostau hyfforddi yn seiliedig ar gymhwysedd a chais cyn y cwrs. Caniatewch o leiaf pythefnos am ymateb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs hwn, cysylltwch â julie.evans@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch 01792 481273.
Pris y cwrs yw £425 yp.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cwrs hwn, cwblhewch eich manylion a byddwn yn eich ffonio'n ôl.
Diolch i'r cwmnïau canlynol am gefnogi'r prosiect gyda chyflenwadau deunyddiau





