{"id":13886,"date":"2024-03-12T12:57:13","date_gmt":"2024-03-12T12:57:13","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=13886"},"modified":"2024-03-12T12:57:14","modified_gmt":"2024-03-12T12:57:14","slug":"uwtsd-hosts-sustainable-construction-careers-fair-during-women-in-construction-week","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2024\/03\/12\/uwtsd-hosts-sustainable-construction-careers-fair-during-women-in-construction-week\/","title":{"rendered":"Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ffair Yrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy yn ystod Wythnos Menywod mewn Adeiladwaith"},"content":{"rendered":"<p>I ddathlu Wythnos Menywod mewn Adeiladwaith (Mawrth 3 i 9), cynhaliodd Prifysgol Cymru Y DRindod Dewi Sant Ffair Yrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy cyntaf yn ei hadeilad IQ yn Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019i threfnu ar y cyd gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru, yr Ysgol Pensaern\u00efaeth, Adeiladwaith a\u2019r Amgylchedd, a Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, nod y ffair oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr a graddedigion y Drindod Dewi Sant, yn ogystal \u00e2 myfyrwyr ar ymweliad o Goleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) a Choleg G\u0175yr Abertawe, gwrdd ag ystod eang o gwmn\u00efau sy\u2019n ymwybodol o\u2019r amgylchedd; i rwydweithio, a gwneud ymchwil mewn i ragolygon swyddi o fewn y cwmn\u00efau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae Wythnos Menywod mewn Adeiladu yn dathlu ac yn hyrwyddo r\u00f4l menywod yn y diwydiant adeiladu ac yn cydnabod y r\u00f4l hanfodol y maent yn ei chwarae wrth lunio dyfodol y diwydiant adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Yn ogystal \u00e2\u2019r ffair, mwynhaodd gwesteion nifer o gyflwyniadau craff gan fenywod sy\u2019n gweithio mewn rolau adeiladu, pensaern\u00efaeth ac amgylcheddol. Roedd siaradwyr gwadd yn cynnwys Dr Alissa Flatley, Uwch Ddarlithydd mewn Cadwraeth a Rheolaeth Amgylcheddol yn y Drindod Dewi Sant, Rachel Cook, Pennaeth Rhwydweithiau Woodknowledge Cymru sy\u2019n gyn-staff y Brifysgol yn ogystal \u00e2\u2019n gyn-fyfyrwraig BSc Rheoli Prosiect ac Adeiladwaith drwy lwybr Gradd Brentisiaeth, a Michelle Murillo, cyn-fyfyrwraig BSc Pensaern\u00efaeth sydd bellach yn gweithio fel Technegydd Pensaern\u00efol yn James and Nicholas Architects ym Mhort Talbot<\/p>\n\n\n\n<p>Fe wnaethom hefyd groesawu Lindsay Richards, cyn-staff addysgu ac sydd bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Richards, Syrf\u00ebwyr Meintiau Siartredig a Pheirianwyr Adeiladwaith Siartredig yn Abertawe. Mae Lindsay wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu ers sawl blwyddyn ac mae\u2019n angerddol am weld menywod yn symud ymlaen yn y sector. Mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Bwrdd Cymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu ac yn aelod o Banel Gr\u0175p Proffesiynol Adeiladu yn Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.<\/p>\n\n\n\n<p>Denodd yr arddangosfa gyrfaoedd dros 35 o gwmn\u00efau gyda sawl sector yn cynrychioli sefydliadau adeiladu, pensaern\u00efaeth, ynni, amgylcheddol a phroffesiynol. Diolch i\u2019r holl gyflogwyr hyn a sicrhaodd lwyddiant y digwyddiad.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Hefyd, trefnodd staff o\u2019r Ysgol Pensaern\u00efaeth, Adeiladwaith a\u2019r Amgylchedd a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru y Brifysgol ystod o arddangosiadau a gweithgareddau yn seiliedig ar y thema cynaliadwyedd. Roedd y rhain yn cynnwys adeiladwaith pelenni gwellt, gweithdy daear wedi\u2019i atgyfnerthu, gweithdy Quake Shake a oedd yn cynnwys archwilio sut i godi adeiladau mewn parthau daeargryn, a chyfle i ddysgu am gynaliadwyedd mewn adeiladu gan ddefnyddio realiti rhithwir.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>I ddathlu Wythnos Menywod mewn Adeiladwaith (Mawrth 3 i 9), cynhaliodd Prifysgol Cymru Y DRindod Dewi Sant Ffair Yrfaoedd Adeiladu Cynaliadwy cyntaf yn ei hadeilad IQ yn Abertawe. <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-13886","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13886","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13886"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13886\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13894,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13886\/revisions\/13894"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13886"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13886"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13886"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}