{"id":13876,"date":"2024-02-26T17:50:39","date_gmt":"2024-02-26T17:50:39","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=13876"},"modified":"2024-03-25T14:37:29","modified_gmt":"2024-03-25T14:37:29","slug":"uwtsds-innovative-training-programme-elevates-carmarthenshire-to-the-forefront-of-energy-efficient-building-design","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2024\/02\/26\/uwtsds-innovative-training-programme-elevates-carmarthenshire-to-the-forefront-of-energy-efficient-building-design\/","title":{"rendered":"Rhaglen Hyfforddi Arloesol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Rhoi Sir G\u00e2r ar y Blaen ym Maes Dylunio Adeiladau Effeithlon o ran Ynni"},"content":{"rendered":"<p>Yn gam arwyddocaol tuag at adeiladu cynaliadwy, mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith (CWIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ddatgelu ei menter hyfforddi ddiweddaraf, \u2018Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd\u2019, yn rhan o\u2019r rhaglen Adeiladu Cymru Sero Net.<\/p>\n\n\n\n\n\n<p>Mae\u2019r fenter arloesol, blwyddyn o hyd hon yn barod i chwyldroi\u2019r dirwedd adeiladu yn Sir G\u00e2r trwy ymgorffori egwyddorion a thechnegau safon Passivhaus yn yr ethos adeiladu lleol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae \u2018Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd\u2019 yn darparu\u2019n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy\u2019n ymwneud \u00e2 dylunio ac adeiladu adeiladau effeithlon o ran ynni. Mae\u2019r rhaglen yn cynnig dau gwrs unigryw: y Dylunydd Passivhaus Ardystiedig a\u2019r Crefftwr Passivhaus Ardystiedig, y mae\u2019r ddau wedi\u2019u llunio ac yn cael eu cyflwyno gan Coaction, sefydliad nid-er-elw adnabyddus gyda hanes o 12 mlynedd ym maes hyfforddi \nPassivhaus uwch. Mae\u2019r cyrsiau hyn yn anelu at ymdrin \u00e2 chwricwlwm helaeth, o wyddor adeiladu ac effeithlonrwydd ynni i bynciau mwy manwl megis aerglosrwydd, awyru, a dylunio solar goddefol.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ogystal \u00e2\u2019r arlwy hwn, bydd cwrs pwrpasol yn cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn i ddod sydd wedi\u2019i anelu at unigolion mewn rolau cynnal a chadw, adeiladu, a rheoli cyfleusterau. Ategir y dull hyfforddi cynhwysfawr hwn gan ddarlithoedd, gweminarau, ac arddangosiadau, gan arddangos astudiaethau achos rhanbarthol llwyddiannus.<\/p>\n\n\n\n<p>Gan gyd-fynd ag ymrwymiad Cyngor Sir G\u00e2r i adeiladu ysgolion newydd yn unol \u00e2 safonau Passivhaus, mae\u2019r rhaglen hyfforddi hon, sydd wedi\u2019i hariannu\u2019n llawn, wedi\u2019i theilwra ar gyfer y rheiny sy\u2019n byw neu\u2019n gweithio yn Sir G\u00e2r. Ymhlith y cynulleidfaoedd targed y mae penseiri, peirianwyr, crefftwyr a chontractwyr, staff rheoli cyfleusterau, arolygwyr adeiladau, myfyrwyr a staff addysg bellach ac uwch, a grwpiau cymunedol. Mae\u2019r fenter hon yn cynrychioli cam anferthol i Sir G\u00e2r, gan ei rhoi mewn safle arweinydd ym maes tai ac arferion adeiladu cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni yn y DU.<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai Gareth Evans, Pennaeth CWIC: \u201cWrth i ni gychwyn ar y daith drawsnewidiol hon gyda\u2019r fenter \u2018Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd\u2019, rydw i wedi cyffroi gan bosibiliadau\u2019r hyn y gallwn ei gyflawni gyda\u2019n gilydd. Mae\u2019r rhaglen hon yn fwy na dim ond cwrs hyfforddi; mae\u2019n borth at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth. Yma yn CWIC, rydym wedi ymrwymo i feithrin oes newydd o adeiladau sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019n hamgylchedd. Rwy\u2019n hyderus y bydd Sir G\u00e2r, drwy\u2019r fenter hon, nid yn unig yn cofleidio egwyddorion safon Passivhaus, ond hefyd yn dod yn esiampl o arferion adeiladu cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni. Mae\u2019r cyfle i arwain y newid hwn a chael effaith amlwg yn ein cymuned yn gyfrifoldeb yr ydym i gyd yn CWIC yn llawn cyffro i ymgymryd ag ef.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Wedi\u2019u hariannu gan raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a\u2019u cefnogi gan Gyngor Sir G\u00e2r, mae\u2019r cyrsiau hyn yn brawf o\u2019n hymrwymiad i feithrin sgiliau ac arbenigedd mewn arferion adeiladu cynaliadwy.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Meddai\u2019r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir G\u00e2r dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae\u2019r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i\u2019r afael \u00e2 newid hinsawdd, mae lansiad y fenter \u2018Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd\u2019 yn enghraifft gyffrous o sut y gall addysg, hyfforddiant ac adeiladu hwyluso newid ymarferol. Rwy\u2019n croesawu ffocws y prosiect gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o ran cefnogi ein cymunedau i arwain ar arloesi mewn arferion adeiladu a sicrhau bod Sir G\u00e2r yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth wrth helpu i liniaru achosion newid hinsawdd.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyrsiau, sy\u2019n cychwyn y gwanwyn hwn o ran y cwrs Crefftwyr Passivhaus Ardystiedig ac ar ddechrau mis Mawrth o ran y cwrs Dylunydd Passivhaus Ardystiedig, yn cynrychioli cam sylweddol tuag at wella ein galluoedd adeiladu rhanbarthol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae argaeledd ar sail y cyntaf i\u2019r felin, gan sicrhau mynediad teg at yr hyfforddiant gwerthfawr hwn. Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, mae angen i gyfranogwyr fod wedi\u2019u lleoli yn Sir G\u00e2r neu fod yn ymwneud \u00e2 phrosiect lleol o fewn yr awdurdod. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, cysylltwch \u00e2 Julie Evans, rheolwr y prosiect yn CWIC, dros y ff\u00f4n ar 01792 481273, drwy e-bost ar\u00a0<a href=\"mailto:julie.evans@uwtsd.ac.uk\">julie.evans@uwtsd.ac.uk<\/a>neu drwy gwblhau\u2019r\u00a0<a href=\"https:\/\/app.smartsheet.com\/b\/form\/71a641b20bc04427bcbf8c7946c38ca7\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"><em>ffurflen ymholi.<\/em><\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn gam arwyddocaol tuag at adeiladu cynaliadwy, mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith (CWIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ddatgelu ei menter hyfforddi ddiweddaraf, \u2018Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd\u2019, yn rhan o\u2019r rhaglen Adeiladu Cymru Sero Net. <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":14018,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-13876","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13876","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13876"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13876\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13880,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13876\/revisions\/13880"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/14018"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13876"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13876"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13876"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}