{"id":13727,"date":"2023-11-23T15:30:35","date_gmt":"2023-11-23T15:30:35","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=13727"},"modified":"2023-12-07T12:46:40","modified_gmt":"2023-12-07T12:46:40","slug":"energy-saving-at-the-forefront-of-university-building-courses","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2023\/11\/23\/energy-saving-at-the-forefront-of-university-building-courses\/","title":{"rendered":"Arbed ynni yn flaenllaw yng nghyrsiau adeiladu\u2019r Brifysgol"},"content":{"rendered":"
Mae\u2019r dechneg yn defnyddio dulliau megis cynyddu aerglosrwydd i\u2019r eithaf, cynyddu inswleiddio, optimeiddio p\u0175er solar ac awyru naturiol er mwyn lleihau\u2019r angen i ddefnyddio ynni a lleihau allyriannau carbon. <\/p>\n\n\n\n
Bydd gweithgareddau Adeiladu Cymru Sero Net yn gweithio ochr yn ochr \u00e2 phartneriaid mewn diwydiant, addysg uwch ac addysg bellach, ysgolion a'r trydydd sector i greu a chyflwyno micro-gyrsiau mewn dylunio 'Ffabrig yn Gyntaf'. Cynhelir sesiynau yng ngweithdy adeiladu'r brifysgol gan ddefnyddio ystod o offer pwrpasol a chymhorthion hyfforddi i ategu'r sgiliau hyn.<\/p>\n\n\n\n
Cyflwynir y cyrsiau i\u2019r buddiolwyr drwy weithdai ymarferol unigryw yn CWIC gan arbenigwyr yn y diwydiant.  Bydd y cyrsiau newydd yn cynnwys cymysgedd o 8 rhaglen am Ffabrig yn Gyntaf mewn Adeiladau Newydd ac \u00d4l-osod.   Sef:<\/p>\n\n\n\n
Ffabrig yn Gyntaf mewn Adeiladau Newydd:<\/strong>
Dylunio amlenni adeiladau
Dulliau Adeiladu Modern (MMC)
Dylunio solar goddefol
Ffiseg a pherfformiad adeiladau
Gwres ac awyru mecanyddol\/adnewyddadwy
\u00d4l-ffitio Ffabrig yn Gyntaf<\/strong>
Asesiadau Adeiladau \u2013 yn cynnwys ystod o asesiadau perfformiad, modelu ynni, a dynodi cyfleodd i arbed ynni
Asesiadau Adeiladau \u2013 inswleiddio, aerglosrwydd, drysau, ffenestri a m\u00e0s thermol i leihau dibyniaeth adeiladau ar ynni i wresogi ac oeri
Technoleg adeiladu glyfar<\/p>\n\n\n\n
Nod y Drindod Dewi Sant yw darparu\u2019r cyrsiau diwrnod neu hanner diwrnod hyn ar gyfer 150 o unigolion o\u2019r diwydiant, 20 addysgwr, 50 o bobl ddi-waith \/ arall a 200 o fyfyrwyr o lefel 2-7. Caiff pob un o\u2019r cyrsiau ei deilwra i\u2019r cynulleidfaoedd gwahanol.<\/p>\n\n\n\n
Meddai Rachel Cook, Swyddog Cefnogi Diwydiant ar gyfer Sero Net yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn y Drindod Dewi Sant:  \u201cNi allwn ni guddio rhag yr argyfwng hinsawdd sydd ohoni ar hyn o bryd nac osgoi edrych ar yr effeithiau mae\u2019r diwydiant adeiladu yn gallu eu creu.  Gyda phrisoedd ynni\u2019n saethu drwy\u2019r to mae angen i ni sicrhau bod ein stoc dai bresennol a newydd mor effeithlon \u00e2 phosibl o ran ynni.<\/p>\n\n\n\n
\u201cMae dull Ffabrig yn Gyntaf yn ymgorffori agwedd \u2018ei gwneud hi\u2019n iawn y tro cyntaf\u2019, ac mae\u2019n ystyried pwysigrwydd deunyddiau adeiladu, gwaith gosod, a\u2019r effeithiau mae\u2019r pethau hyn yn eu cael ar berfformiad adeiladau o ran ynni.  Mae\u2019n brosiect ymarferol cyffrous iawn y mae\u2019r diwydiant yn falch i fod yn rhan ohono ac yn ei gyflawni.\u201d<\/p>\n\n\n\n
Caiff cynnwys y cwrs ei greu gan arbenigwyr y diwydiant ac addysgwyr yn ogystal \u00e2 defnyddio adnoddau presennol.<\/p>\n\n\n\n
Mae\u2019r Brifysgol yn gobeithio recriwtio\u2019r myfyrwyr cyntaf o fis Tachwedd 2023, gyda\u2019r cynllun yn rhedeg tan fis Ionawr 2025.<\/p>\n\n\n\n
Meddai Jane Lewis, Rheolwr Partneriaethau Rhanbarthol ar gyfer Bargen Ddinesig Bae Abertawe:  \u201cMae cynaliadwyedd a thechnoleg newydd bellach wrth wraidd sut rydym ni\u2019n dylunio, yn adeiladu, ac yn byw mewn cartrefi newydd yng Nghymru. Mae\u2019r ffyrdd hyn o weithio a defnyddio deunyddiau\u2019n wahanol iawn i ddulliau traddodiadol ond maen nhw\u2019n allweddol er mwyn cyflawni economi gylchol yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n
\u201cMae croesawu newid yn gofyn am sgiliau a gwybodaeth newydd, y bydd rhaglen Adeiladu Cymru Sero Net a\u2019r hyfforddiant gan CWIC yn eu darparu drwy ddysgu ymarferol a thrwy ymwybyddiaeth gynyddol o ddulliau adeiladu a dylunio newydd.  Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i sicrhau bod sgiliau\u2019r dyfodol ar gael i fodloni\u2019r nifer mawr o gyfleoedd a fydd ar gael yn y rhanbarth dros y 10 mlynedd nesaf.\u201d<\/p>\n\n\n\n
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi sicrhau cyllid gan Raglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddarparu cyrsiau mewn technegau adeiladu sy\u2019n arbed ynni er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd.\n\nBydd prosiect newydd Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":13728,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-13727","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13727","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13727"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13727\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13812,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13727\/revisions\/13812"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13728"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13727"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13727"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13727"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}