{"id":13375,"date":"2022-05-13T10:32:42","date_gmt":"2022-05-13T10:32:42","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=13375"},"modified":"2022-05-19T14:34:56","modified_gmt":"2022-05-19T14:34:56","slug":"the-future-of-timber-in-wales","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2022\/05\/13\/the-future-of-timber-in-wales\/","title":{"rendered":"Dyfodol pren yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p>Mae'n wych bod datgarboneiddio ac adferiad gwyrdd wrth wraidd <a href=\"https:\/\/llyw.cymru\/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-yr-hanfodion\">Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru<\/a> (2015). Ond beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Y diwydiant adeiladu yw un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac mae'n darparu dros 100,000 o swyddi, ond, yn anffodus, mae hefyd yn un o'n llygrwyr mwyaf. Dyna pam y mae ein cenhadaeth yng Nghanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) i uwchsgilio'r sector i ddod yn ddiwydiant Sero-net yn bwysicach nag erioed.    \n\nA ninnau'n bartneriaid allweddol yn y prosiect \u00d4l-osod er mwyn Optimeiddio a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac ymgyrchoedd addysgol Sero-net eraill, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod dyfodol disglair yn wynebu sgiliau gwyrdd ac addysg werdd yng Nghymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Ein huchelgais yw sicrhau bod defnyddiau cynaliadwy yn wirioneddol amlwg ym maes adeiladu yng Nghymru, a byddwn yn cefnogi Cymru Carbon Isel trwy sicrhau bod adeiladau preswyl a masnachol, fel ei gilydd, yn llawer mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni a charbon, ynghyd ag ategu'r ecosystem sgiliau a gwybodaeth sy'n ofynnol i gyflawni'r allbynnau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Cais llwyddiannus am gyllid<\/strong><br><br>Ym mis Ebrill, mewn partneriaeth \u00e2 <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/woodknowledge.wales\/\" target=\"_blank\">WoodKnowledge Wales<\/a> dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.ceredigion.gov.uk\/business\/funding-grants\/community-renewal-fund\/\" target=\"_blank\">Cronfa Adfywio Cymunedol y DU<\/a> i ddarparu adroddiad dichonoldeb a chynllun busnes ac iddynt y nod o sefydlu Canolfan Datblygu Pren Cymru, a fyddai'n cynnwys cynlluniau ar gyfer y cyfleuster cyntaf yng Nghymru i ganolbwyntio ar bren. Pren yw ein hunig ddefnydd adeiladu adnewyddadwy sydd ar gael yn eang, ac yn hynny o beth mae ganddo r\u00f4l bwysig yn y gwaith o ddatblygu dulliau adeiladu carbon isel newydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd ein Canolfan Datblygu Pren, a leolir yn Llanbedr Pont Steffan yn y Canolbarth, yn rhoi cyfle i gyd-ddylunio\/ddatblygu cynnyrch ac arloesi gwasanaethau, ynghyd ag i ddechrau mentrau a busnesau newydd, camau a fydd yn arwain at swyddi newydd a gwell sgiliau ar gyfer y rhanbarth a Chymru. Mae WoodKnowledge Wales (WKW) yn d\u00eem o arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau a sectorau, megis penseiri, peirianwyr, ymchwilwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes tai, gwyddonwyr coed a melinwyr coed. Gyda'n gilydd, rydym yn ymrwymedig i ysgogi newid trwy gydweithio ledled y byd academaidd, diwydiant a pholisi.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ei gynllun cyfredol, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi nodi 'hybu'r economi' yn brif flaenoriaeth. Mae Strategaeth Economaidd newydd y Cyngor Sir yn amlinellu'r modd y mae'n bwriadu cyflawni hyn ac yn amlygu'r berthynas agos rhwng ffyniant economaidd ac asedau naturiol y sir. <\/p>\n\n\n\n<p>Mae ein gweithgarwch yn rhan allweddol o <a href=\"https:\/\/tirglas.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Canolfan Tir Glas,<\/a> sef gweledigaeth strategol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gyfrannu at y gwaith o adfywio tref Llanbedr Pont Steffan, ac mae'r fenter hon yn gatalydd allweddol ar gyfer ystod o ddatblygiadau cysylltiedig ledled yr ardal.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Yr hyn yr ydym yn ei gynnig<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Cafwyd rhan ganolog ein cyllid i ddatblygu cyrsiau a digwyddiadau a fyddai'n arbenigo mewn pren o Gymru, gweithgynhyrchu, ac adeiladwaith\/\u00f4l-osod carbon isel. Bydd y rhain yn cael eu darparu yn ystod misoedd Mehefin a Gorffennaf 2022 gan arbenigwyr yn y diwydiant a'n hacademyddion blaenllaw. <\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/mailchi.mp\/c6eb5dcd97bb\/woodknowledgewales-events-spring22?e=357f711099\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Mae rhaglen y diwgyddiadau<\/a> ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, masnachwyr, myfyrwyr, neu hyd yn oed y rhai sy'n ystyried newid gyrfa, ac mae'n cynnwys gwybodaeth sy'n amrywio o weithgynhyrchu paneli yn unol ag amserlen uwch ar gyfer adeiladau uchel eu perfformiad, i ddefnyddio technegau i fesur effaith adeiladau, i gynnal gwerthusiadau o berfformiad adeiladau yn achos \u00f4l-osod, ac i'r ffordd o gynhyrchu'r pren y mae arnom ei angen i sicrhau Cymru ddi-garbon mewn modd cynaliadwy.<\/p>\n\n\n\n<p>Byddant yn rhan o gynigion i ymgorffori ein dysgu ymhellach mewn cyrsiau newydd a chyrsiau cyfredol a gynigir ym <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.uwtsd.ac.uk\/cy\/\" target=\"_blank\">Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.<\/a>Bydd y sesiynau gweithdy a gynllunnir ar gyfer y Ganolfan Datblygu Pren hefyd yn cefnogi cymwysterau newydd ym maes addysg bellach ac addysg uwch, a hynny mewn partneriaeth \u00e2 <a href=\"https:\/\/www.colegsirgar.ac.uk\/index.php\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Coleg Sir Gar<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.ceredigion.ac.uk\/index.php\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Coleg Ceredigion.<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae'n wych bod datgarboneiddio ac adferiad gwyrdd wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru (2015). Ond beth y mae hyn yn ei olygu yn ymarferol? <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-13375","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13375","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13375"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13375\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13470,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13375\/revisions\/13470"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13375"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13375"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13375"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}