{"id":13323,"date":"2022-04-28T14:58:17","date_gmt":"2022-04-28T14:58:17","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=13323"},"modified":"2022-04-28T14:59:59","modified_gmt":"2022-04-28T14:59:59","slug":"total-immersion-for-construction-pupils","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2022\/04\/28\/total-immersion-for-construction-pupils\/","title":{"rendered":"Llwyrdrochiad ar gyfer Disgyblion Adeiladu"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae realiti rhithwir yn darparu offeryn defnyddiol i hyfforddi dysgwyr adeiladu ifanc. Croesawodd Coleg Sir Benfro ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Taf, a gafodd y cyfle anarferol i brofi adeiladu o safbwynt rhithwir.&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Diolch i brosiect arloesol seiliedig ar dechnoleg a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi\u2019r Diwydiant Adeiladu (CITB), gwahoddwyd disgyblion Lefel 2, sy\u2019n astudio cwrs Adeiladu a\u2019r Amgylchedd Adeiledig CBAC, i brofi, drostynt eu hunain, y feddalwedd a gynlluniwyd gan y diwydiant.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Arweinir CONVERT gan Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae'n galluogi dysgwyr o ysgolion uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch i gael mynediad at raglen hyfforddi sy'n helpu i wella ymgysylltiad dysgwyr a\u2019u parodrwydd i ymuno \u00e2\u2019r sector.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod y digwyddiad, cawsant brofi nifer o adnoddau dysgu rhithwir. Roedd y rhain yn cynnwys:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li class=\"translation-block\">Y Rotor Pilot \u2013 rhaglen sydd wedi\u2019i chynllunio i roi profiad peilot dr\u00f4n rhithwir i ddysgwyr wrth iddynt arolygu safle adeiladu neu adeilad treftadaeth.<\/li><li class=\"translation-block\">Wood-Ed \u2013 efelychydd peiriannu pren sy'n defnyddio Realiti Estynedig i alluogi dysgwyr i ddefnyddio llif bwrdd, cylchlif, plaeniwr a mowldin gwerthyd (mewn modd diogel).<\/li><li class=\"translation-block\">Y rhaglen Working at Height\/Scaffolding sy'n helpu'r defnyddiwr i gael ymdeimlad o beryglon gweithio yn y diwydiant sgaffaldwaith.<\/li><li class=\"translation-block\">Mae'r feddalwedd Virtual Built Environment Element Explorer (VBEEE) yn mynd \u00e2'r dysgwr trwy'r camau o godi adeilad, gan roi ystyriaeth i'r briff dylunio sy'n gwerthuso materion cynaliadwyedd, cost, gwydnwch a chysur.<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p>Mae gan yr ysgol gyswllt ag Alun Griffiths Civil Engineering and Construction, a rhoddodd Swyddog Cyswllt Cyhoeddus y cwmni, Angharad Rosser, gyflwyniad craff ar y modd y maent yn defnyddio dronau yn eu gwaith. Cyfeiriodd at y gwaith byw y maent yn ei wneud ar brosiect gwella ffordd yr A40, sy'n cysylltu'r ysgol a'r coleg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">\u201cMae\u2019n bwysig i\u2019n t\u00eem gwelliannau yr A40 ein bod yn gallu rhoi\u2019r cyfle i fyfyrwyr ddeall y modd y mae gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yn chwarae rhan yn y gwaith o gynllunio ac adeiladu\u2019r seilwaith yr ydym i gyd yn ei ddefnyddio bob dydd. Roeddwn yn falch iawn o allu rhoi mewnbwn ar y modd y mae technoleg yn chwarae rhan yn ein gwaith ar y prosiect, a gobeithiaf ei fod wedi darparu cyd-destun byd go iawn ar gyfer eu hastudiaethau presennol\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd ymweliad yr ysgol \u00e2 Choleg Sir Benfro yn un o\u2019r cyfleoedd cyntaf ers y pandemig i'r disgyblion brofi prosiect dysgu ymarferol unigryw y tu allan i\u2019w hamgylchedd dysgu yn yr ystafell ddosbarth.\u00a0<br><br>Roedd Dominic La Trobe, athro adeiladu'r ysgol, yn awyddus i sicrhau bod ei ddisgyblion yn cael cyfle i dreialu'r cyfarpar CONVERT cyn gadael yr ysgol yn ddiweddarach yn y flwyddyn.<br><br>\u201dRoedd y myfyrwyr wedi mwynhau'r gweithdy CONVERT yn fawr iawn. Rhoddodd yr efelychiadau realiti rhithwir ddirnadaeth amhrisiadwy i feysydd a phroffesiynau yn y diwydiant adeiladu. Roedd y sesiynau'n galluogi'r myfyrwyr i gael profiad diogel o weithgareddau sydd, fel arall, yn rhai risg uchel, megis gweithio ar uchder a defnyddio peiriannau peryglus, a hefyd yn weithgareddau a fyddai'n hollol y tu hwnt i ddarpariaeth yr ystafell ddosbarth fel arfer,\u201d meddai Dominic.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"576\" src=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-1024x576.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-13329\" srcset=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-1024x576.jpg 1024w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-300x169.jpg 300w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-150x84.jpg 150w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-768x432.jpg 768w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-1536x864.jpg 1536w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-2048x1152.jpg 2048w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/04\/20220318_105517-1-scaled-18x10.jpg 18w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption>Disgyblion yn defnyddio'r efelychydd peiriannu pren Wood-Ed yn ddiogel!<\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Mae Coleg Sir Benfro wedi elwa o fenthyg y cyfarpar dros yr wythnosau diwethaf. Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth y Gyfadran Peirianneg, Cyfrifiadura, Adeiladu ac Addysg Uwch:\n\n\u201cRoedd y dysgwyr a'r athrawon yn y Coleg wedi mwynhau'r profiad o ddefnyddio\u2019r dechnoleg ddyfodolaidd yn fawr iawn, yn ogystal \u00e2\u2019r dysgu a ddaeth yn sgil y cyfarpar rhyngweithiol a\u2019r amgylchedd rhithwir. Roedd y dysgwyr wedi elwa\u2019n arbennig o allu defnyddio\u2019r fainc efelychu peiriannu pren rithwir heb y perygl cynhenid o ddefnyddio\u2019r cyfarpar yn bersonol\u201d.<\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae'r prosiect CONVERT yn darparu ystod eang o gyfleoedd i ddysgwyr gael blas ar y modd y mae technoleg ddigidol yn cael ei defnyddio mewn adeiladu. Wrth i ni edrych ymlaen at gyflwyno cymwysterau sgiliau digidol newydd yr hydref hwn, mae cymryd rhan yn y prosiect hwn yn amserol iawn,\u201d meddai Julie Evans, rheolwr y prosiect.<\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Mae adnoddau dysgu CONVERT ar gael i'w benthyca gan CWIC yn rhad ac am ddim. Cysylltwch \u00e2 Julie ar 01792 481273\/julie.evans@uwtsd.ac.uk i gael gwybod sut y gall eich dysgwyr elwa.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae realiti rhithwir yn darparu offeryn defnyddiol i hyfforddi dysgwyr adeiladu ifanc. Croesawodd Coleg Sir Benfro ymweliad gan ddisgyblion Ysgol Dyffryn Taf, a gafodd y cyfle anarferol i brofi adeiladu o safbwynt rhithwir. <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":13327,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-13323","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13323","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=13323"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13323\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":13331,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/13323\/revisions\/13331"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/13327"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=13323"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=13323"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=13323"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}