{"id":12257,"date":"2021-03-23T15:16:16","date_gmt":"2021-03-23T15:16:16","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=12257"},"modified":"2021-04-13T10:28:36","modified_gmt":"2021-04-13T10:28:36","slug":"ciob-and-cwic-launch-virtual-reality-construction-experience-for-students","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2021\/03\/23\/ciob-and-cwic-launch-virtual-reality-construction-experience-for-students\/","title":{"rendered":"CIOB A CWIC YN LANSIO PROFIAD ADEILADU REALITI RHITHWIR I FYFYRWYR"},"content":{"rendered":"<figure class=\"wp-block-gallery alignfull columns-0 is-cropped wp-block-gallery-1 is-layout-flex wp-block-gallery-is-layout-flex\"><ul class=\"blocks-gallery-grid\"><\/ul><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) a Chanolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) wedi lansio profiad realiti rhithwir \u00e2\u2019r nod o gynorthwyo addysg adeiladu i fyfyrwyr.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r prosiect yn deillio o \u2018Sgiliau ar y Gweithle\u2019, menter gan CWIC wedi\u2019i chynllunio i ddarparu cyfleoedd dysgu diddorol a difyr \u2018byw, ar y gweithle\u2019 i fyfyrwyr o bob oed i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Mae CWIC wedi gweithio gyda cholegau partner ar draws Cymru i gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau hyfforddi\u2019n seiliedig ar adeiladu i ymdrin ag anghenion penodol sgiliau yn y dyfodol, bylchau mewn darpariaeth a denu\u2019r genhedlaeth nesaf o bobl i ystyried y diwydiant fel dewis gyrfa.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cwrs, \u2018Construct Your Future\u2019, wedi\u2019i gynllunio i alluogi disgyblion i weithio at Brosiect Dylunio ac Adeiladu erbyn diwedd y flwyddyn yn ogystal \u00e2 chwblhau Dyfarniad Lefel 1 City and Guilds mewn Sgiliau Adeiladu fydd yn gyflwyniad gwerthfawr i\u2019r diwydiant adeiladu. Bydd cyfleoedd hefyd iddynt gael profiad ymarferol gyda rhai o\u2019r sgiliau hanfodol yn y diwydiant a gwneud tasgau\u2019n defnyddio meddalwedd Dylunio \u00e2 Chymorth Cyfrifiadur a dysgu am waith Syrf\u00ebwr Meintiau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"translation-block\">Un o\u2019r cyfleoedd ymarferol yw rhaglen realiti rhithwir - gan ddefnyddio meddalwedd Archwiliwr Elfennau yr Amgylchedd Adeiledig Rhithwir CWIC (VBEEE) - \u00e2\u2019r nod o gynyddu ap\u00eal y diwydiant adeiladu drwy wneud y broses adeiladu\u2019n debyg i g\u00eam. Cafodd y rhaglen ei threialu gan ddisgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol y Preseli yn Sir Benfro ar ddydd Gwener 19 Mawrth 2021, gyda\u2019r sesiwn yn cael ei chynnal ar Gampws Coleg Ceredigion yn Aberteifi. Mae\u2019r meddalwedd yn gadael i ddysgwyr archwilio a phrofi\u2019r broses adeiladu drwy adeiladu amrywiaeth o adeiladau gwahanol yn rhithwir, ac ar \u00f4l eu cwblhau mae\u2019n gadael i\u2019r dysgwyr gymharu cynaladwyedd y perfformiad a mesurau cost sydd wedi eu hadeiladu ynddyn nhw.<\/p>\n\n\n\n<p><em><strong>Dywedodd Laura Clarke, Rheolwr Rhanbarthol \u2013 Cymru y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB):<\/strong><\/em><em><strong><\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em>\u201cMae CIOB yn falch iawn i weld dulliau newydd ac arloesol o ymgysylltu \u00e2 dysgwyr ifanc, ac mae ymagwedd gydweithredol CIOB a CWIC yn arwain gyda\u2019r dulliau diweddaraf o ddod \u00e2\u2019r diwydiant adeiladu\u2019n fyw yn ystod y pandemig ac annog pobl ifanc i mewn i\u2019r sector.\u201d<\/em><\/p>\n\n\n\n<p><em><strong>Dywedodd Gareth Wyn Evans, Rheolwr yn CWIC: <\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cCydweithio yw sail CWIC, ac mae\u2019r fenter hon yn enghraifft arall o sut y mae ein perthynas strategol hirsefydlog gyda CIOB wedi sicrhau datrysiad arloesol arall i sbarduno addysg adeiladu a hyrwyddo rolau technegol a phroffesiynol yn y sector.\u201d<em><\/em><\/p>\n\n\n\n<p>\u201cAr gyfer addysg a\u2019r diwydiant adeiladu mae hyfforddiant trochol o bell yn ddifyr, cost-effeithiol a diogel, ac mae hefyd yn sicrhau bod hyfforddeion yn cael y profiad ymarferol nad yw ar gael ar hyn o bryd. Tra bo COVID wedi cyfyngu ein mynediad at amgylcheddau gwaith byw, mae realiti rhithwir, yn enwedig drwy brosiect CONVERT, wedi galluogi dysgwyr i brofi syniadau, cydrannau a nodweddion cyn eu hymrwymo i adeiladu, lle cyn hynny mae\u2019n bosibl mai dim ond mewn gwerslyfrau a chyflwyniadau ar-lein fydden nhw wedi dod ar draws y pwnc. Mae hyn yn digido cyflwyno gyda dyhead i newid canfyddiadau o\u2019r sector adeiladu sy\u2019n esblygu yng Nghymru.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cDrwy archwilio, ymgyfarwyddo ac ymarfer yn ein hamgylchedd rhithwir, gellir sicrhau gwybodaeth a sgiliau heb boeni am ganlyniadau yn y byd real. Roedd hyn yn arbennig o amlwg ddydd Gwener, pan fu dysgwyr ar ymweliad safle rhithwir gan dderbyn cyngor, arweiniad ac argymhellion gan arbenigwyr yn y diwydiant yn Hyb CIOB Cymru.\u201d<em><\/em><\/p>\n\n\n\n<h5 class=\"wp-block-heading\"><em>Dywedodd Huw Thomas Arweinydd Cwricwlwm Coleg Ceredigion:<\/em><\/h5>\n\n\n\n<p>&nbsp;Roedd yn fraint cael cymryd rhan yn lansiad y Llwyfan Sgiliau rhithwir, roedd y dechnoleg yn wych. Penderfynodd CWIC a CIOB mai disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol y Preseli fyddai\u2019r garfan gyntaf i brofi a defnyddio\u2019r llwyfan cyffrous hwn. Rydym ni\u2019n ffodus fel coleg ein bod wedi meithrin a chynnal cysylltiadau mor hanfodol gyda sefydliadau proffesiynol, ac mae\u2019n wych cael gweld y digwy<\/p>\n\n\n\n<p>Rydym ni hefyd wedi meithrin perthynas wych gyda busnesau allweddol yn yr ardal leol, ac roedd cael Wyn Harries Design and Management yn rhan o\u2019r digwyddiad ac yn cynnig awgrymiadau allweddol drwy gydol y dydd yn ychwanegu at lwyddiant cyffredinol y digwyddiad. Mae carfan Blwyddyn 11 Ysgol y Preseli yn astudio cymhwyster Cynllunio a Chynnal yr amgylchedd adeiledig CBAC drwy ein rhaglen cyswllt Ysgolion. Bydd y digwyddiad hwn yn fuddiol iawn iddyn nhw wrth edrych ymlaen at yr asesiadau ym mis Mai 2021.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The Chartered Institute of Building (CIOB) and Construction Wales Innovation Centre (CWIC) have launched a virtual reality experience aimed at aiding construction education for students. The project stems from \u2018Skills on Site\u2019&nbsp;(SonS), a CWIC&nbsp;initiative designed to provide interesting and engaging &hellip; <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":12260,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-12257","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12257","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12257"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12257\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12260"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12257"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12257"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12257"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}