{"id":12222,"date":"2021-03-18T09:31:12","date_gmt":"2021-03-18T09:31:12","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=12222"},"modified":"2021-03-23T17:13:32","modified_gmt":"2021-03-23T17:13:32","slug":"delivering-skills-training-in-wales-for-net-zero","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2021\/03\/18\/delivering-skills-training-in-wales-for-net-zero\/","title":{"rendered":"Delivering Skills &#038; Training in Wales For Net Zero"},"content":{"rendered":"<p><strong>Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Y Drindod yn chwarae ei rhan drwy gyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi i sicrhau bod ymrwymiad llywodraeth Cymru a\u2019r DU i gyflawni Sero Net o allyriadau nwyon t\u0177 gwydr erbyn 2050 ar y trywydd iawn.<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p>Bydd angen creu\u2019r hyn sy\u2019n cyfateb i 350,000 o swyddi newydd yn y diwydiant adeiladu erbyn 2028 a bydd angen dod o hyd i\u2019r rhain drwy gyfuniad o swyddi newydd \u00e2 sgiliau, gwell arbedion mewn rolau presennol, ac arloesi yn y ffordd mae\u2019r diwydiant yn datgarboneiddio\u2019r amgylchedd adeiledig. Dyna ganfyddiad allweddol Building Skills for Net Zero, a gyhoeddwyd gan Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) heddiw (15 Mawrth).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwaith cydweithredol ar y gweill gan CWIC i sicrhau bod sector adeiladwaith Cymru eisoes yn gallu manteisio ar ddatrysiadau hyfforddi arloesol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae menter Cymru gyfan dan arweiniad Gr\u0175p Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sy\u2019n cynnwys Coleg Sir Gar, Coleg Ceredigion, Coleg y Cymoedd a Choleg Cambria yn sicrhau bod sector adeiladu Cymru yn gallu cyrchu datrysiadau hyfforddiant arloesol yn genedlaethol ac yn rhwydd ledled Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae model darpariaeth prif ganolfannau a lloerennau CWIC yn defnyddio deallusrwydd cyflogwyr i wneud yn si\u0175r bod y sgiliau iawn yn eu lle i fodloni galw\u2019r diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn adweithiol ac yn rhagweithiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae lloerennau\u2019n darparu llwybr datblygu gyrfa integredig rhwng gweithredwyr, masnachau a galwedigaethau adeiladu proffesiynol, o dan arweiniad a ddarperir gan yr Hwb yn Abertawe. Maent yn gweithio\u2019n weithredol gyda\u2019i gilydd ac yn rhannu arferion gorau. Mae hyn yn cyfrannu at lefelau newydd o weithio cydweithredol rhwng y sector addysg (ysgolion, AB, AU a darparwyr preifat) a\u2019r diwydiant adeiladu.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Gareth Wyn Evans, Rheolwr Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru:<\/strong>&nbsp;\u201cMae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod ar y blaen yn datblygu a chyflwyno sgiliau newydd a mentrau hyfforddi mewn adeiladu ers cael ei sefydlu ym mis Medi 2016. Mae Strategaeth Sgiliau Sero Net CWIC yn seiliedig ar lawer o ymchwil ac ymgysylltu helaeth gyda diwydiant yn ymwneud \u00e2\u2019r ymdrech barhaus i sicrhau moderneiddio a datgarboneiddio yn y sector. Mae gan ddiwydiant yng Nghymru her sylweddol wrth weithio at Sero Net ac mae gwaith CWIC yn sicr yn dangos sut y gallwn ddatblygu ein diwydiant ac wynebu\u2019r her gyda hyder.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cRhan fawr o\u2019r gwaith fydd codi sgiliau\u2019r gweithlu presennol ac yn y dyfodol er mwyn iddyn nhw ddeall beth mae adeiladu Sero Net yn ei olygu i\u2019r diwydiant.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cEr mwyn galluogi hyn, rydym ni yn CWIC, mewn cydweithrediad \u00e2 Choleg Sir G\u00e2r, yn cyflwyno nifer o fentrau sgiliau mewn meysydd fel Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Thechnoleg Dronau. Yn fwyaf diweddar, rydym ni wedi gweithio gyda nifer o ddarparwyr blaenllaw yn y sector i ddatblygu cyfres o raglenni \u00d4l-osod addas i Ddiwydiant yng Nghymru. Bydd y rhaglenni hyn yn fyw dros yr wythnosau nesaf gan gynnig mynediad uniongyrchol i Ddiwydiant yng Nghymru at y cyrsiau a\u2019r cymwysterau a gyflwynir gan Arbenigwyr yn y Diwydiant. Mae hyn yn ein galluogi i chwarae ein rhan i ddiogelu sgiliau adeiladu at y dyfodol.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae adeiladu yn y DU yn cyfrannu tua 40% o allyriadau\u2019r DU yn \u00f4l y Cyngor Adeiladu Gwyrdd (UKGBC) ac mae lleihau hyn i Sero Net yn her enfawr. Eto i gyd mae\u2019r symudiad at adeiladu glanach, mwy gwyrdd, yn cynnig cyfleoedd mawr i wneud y diwydiant yn fwy deniadol i recriwtiaid newydd a chodi sgiliau\u2019r gweithlu presennol.<\/p>\n\n\n\n<p>Elfen hanfodol o gyflawni Sero Net fydd lleihau allyriadau carbon o adeiladau sy\u2019n bodoli eisoes. Ar draws y DU mae 80% o\u2019r adeiladau a gaiff eu defnyddio yn 2050 eisoes wedi\u2019u hadeiladu a gallai\u2019r rhain gynrychioli 95% o allyriadau\u2019r amgylchedd adeiledig yn y dyfodol. Bydd lleihau allyriadau i Sero Net yn galw am \u00f4l-osod hyd at 27 miliwn o adeiladau domestig a 2 filiwn o adeiladau annomestig.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae CITB wedi modelu\u2019r proffil sgiliau sydd ei angen ar y gweithlu i gyflawni Sero Net gyda data\u2019r Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd. Mae hyn yn dangos erbyn 2028 y bydd gwaith datgarboneiddio ychwanegol wedi creu galw am 86,000 o reolwyr prosiect adeiladu, 33,000 o arbenigwyr amlen adeiladu a 59,000 o blymwyr ac arbenigwyr HVAC.<\/p>\n\n\n\n<p>Daw\u2019r cyfle hwn ochr yn ochr \u00e2 phandemig COVID-19 a chynnydd disgwyliedig mewn niferoed di-waith o sectorau eraill. Mae hwn yn amser perffaith i\u2019r diwydiant adeiladu ei osod ei hun fel cyrchfan gyrfa i bobl sydd wir yn dymuno gwneud gwahaniaeth.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ymchwil CITB yn dangos bod modd lleihau allyriadau\u2019r amgylchedd adeiledig i Sero Net os ceir buddsoddiad ar draws y diwydiant mewn sgiliau, diwygiadau polisi sgiliau pellgyrhaeddol ac ymgyrch recriwtio na welwyd ei debyg. Mae\u2019r her yn fawr, ond felly hefyd y wobr, gan gynig cyfleoedd gyrfa newydd i filoedd o bobl wrth i ni ddod allan o gyfnod o argyfwng cenedlaethol.<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi CITB Steve Radley:&nbsp;<\/strong>\u201cMae Sero Net yn her enfawr i\u2019r diwydiant adeiladu ond yn gyfle mwy fyth i greu diwydiant mwy cynhyrchiol sydd hefyd yn ddewis gyrfa mwy deniadol.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cGallwn ei gyrraedd drwy fod yn glir am y sgiliau allweddol fydd eu hangen, sicrhau bod y cyrsiau a\u2019r cymwysterau iawn ar gael i\u2019w cyflwyno a mynd ati i fuddsoddi ynddyn nhw. Mae diwydiant eisoes yn cyflawni\u2019r hyn sydd ei angen, ond mae angen i hyn ddigwydd ar raddfa fwy. Rhaid i\u2019r sector hyfforddi weithredu nawr gan y bydd anghenion cyflogwyr yn newid yn gyflym. Mae ymagwedd gydlynol at sgiliau ar draws yr amgylchedd adeiledig yn hanfodol.<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae gan y Llywodraeth r\u00f4l allweddol hefyd wrth bennu\u2019r hyn mae\u2019n ei ddymuno a chreu\u2019r ffrwd o alw fydd yn rhoi hyder i\u2019r diwydiant fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ac i ddarparwyr fuddsoddi yn y cyrsiau sydd eu hangen i gyflwyno\u2019r sgiliau hyn.\u201d&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Cyhoeddir adroddiad CITB i ategu Cynllun Sgiliau CLC, sy\u2019n egluro gweithredu\u2019r diwydiant i foderneiddio a datgarboneiddio sgiliau, a CO2nstructZero, rhaglen newid gydweithredol gan y diwydiant i gyflawni Sero Net.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>UWTSD\u2019s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is playing its part by delivering emerging skills and training initiatives to ensure the UK and Welsh government\u2019s commitment to achieving Net Zero greenhouse gas emissions by 2050 is on track. The construction industry &hellip; <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":12223,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-12222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=12222"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/12222\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/12223"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=12222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=12222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=12222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}