{"id":11790,"date":"2020-10-15T08:32:49","date_gmt":"2020-10-15T08:32:49","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=11790"},"modified":"2020-10-15T09:37:53","modified_gmt":"2020-10-15T09:37:53","slug":"uwtsds-construction-wales-innovation-centre-launches-partnership-to-deliver-training-at-new-1-5m-scaffolding-academy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2020\/10\/15\/uwtsds-construction-wales-innovation-centre-launches-partnership-to-deliver-training-at-new-1-5m-scaffolding-academy\/","title":{"rendered":"Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS yn lansio partneriaeth i ddarparu hyfforddiant mewn Academi Sgaffaldio \u00a31.5m newydd"},"content":{"rendered":"<p>Mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS (CWIC) yn cydweithio gydag Alpha Safety o Dde Cymru i ddarparu hyfforddiant yn ei Academi Sgaffaldio \u00a31.5m newydd yn Abertawe a Chaerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn cael ei arwain gan CWIC mewn partneriaeth ag Alpha Training a Bwrdd Hyfforddi Diwydiant Adeiladu Cymru (CITB), bydd yr academi newydd yn agor yn nes ymlaen y mis yma.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y bartneriaeth ag Alpha Safety yn galluogi ystod o gyrsiau i gael eu darparu\u2019n lleol er mwyn cwrdd ag anghenion y diwydiant adeiladu. Bu Alpha Safety yn un o\u2019r prif hyfforddwyr adeiladwaith ar draws Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae hyn hefyd yn golygu na fydd myfyrwyr a leolir yng Nghymru sy\u2019n dymuno cael hyfforddiant sgaffaldio helaeth yn gorfod teithio i Loegr neu\u2019r tu hwnt i ennill yr ystod lawn o sgiliau.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r Academi Sgaffaldio yn gyfleuster pwrpasol a leolir yn Ffordd Fabian ym Mae Abertawe.  Ynghyd \u00e2 safle llai yng Nghaerdydd bydd ein partneriaeth yn gwasanaethu\u2019r diwydiant adeiladu yng Nghymru gyda siop un stop ar gyfer hyfforddiant mynediad a rigio.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gr\u0175p cyntaf o ddysgwyr yr Academi yn cychwyn ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Mynediad i Weithrediadau a Rigio (Adeiladwaith) \u2013 Sgaffaldio.  Bu\u2019r diwydiant Cymreig yn aros yn hir am gwrs prentisiaeth yng Nghymru ac mae\u2019r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy\u2019n dymuno ennill cymhwyster mewn sgaffaldio a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd ag ennill profiad galwedigaethol gwerthfawr wrth ochr eu hastudiaethau yn Academi CWIC. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y gr\u0175p cyntaf o ddysgwyr yr Academi yn cychwyn ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Mynediad i Weithrediadau a Rigio (Adeiladwaith) \u2013 Sgaffaldio.  Bu\u2019r diwydiant Cymreig yn aros yn hir am gwrs prentisiaeth yng Nghymru ac mae\u2019r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y sawl sy\u2019n dymuno ennill cymhwyster mewn sgaffaldio a gydnabyddir gan y diwydiant, ynghyd ag ennill profiad galwedigaethol gwerthfawr wrth ochr eu hastudiaethau yn Academi CWIC.<\/p>\n\n\n\n<p>Ychwanegodd: \u201cMae\u2019n bleser gan CWIC weithio gyda\u2019r t\u00eem yn Alpha Safety a bydd datblygiad y cyfleuster newydd hwn yn effeithio\u2019n sylweddol ar uwchsgilio gweithwyr Cymreig o fewn y sector sgaffaldio.<br><br>Mae\u2019r adeilad wedi cael adnewyddiadau gwerth tua \u00a31.5miliwn, diolch i TRJ Construction a gweithio\u2019n agos ag Alpha Safety, er mwyn creu Neuadd Fynediad 2,000 m2 sy\u2019n cynnwys dosbarthiadau a chyfleusterau TG i ddarparu\u2019r ystod lawn o hyfforddiant gweithio ar uchder i fyfyrwyr newydd, prentisiaid, pobl sy\u2019n uwchsgilio, goruchwylwyr ac arolygwyr. Ceir naw parth hyfforddiant a phedwar dosbarth pwrpasol, un gyda chyfleusterau TG.&nbsp;<br><br>Meddai Paul Jones, Rheolwr-Gyfarwyddwr Alpha Safety: \u201cMae\u2019n bleser ac yn fraint i fod wedi cael ein dewis gan PCYDDS a CWIC i fod yn bartneriaid iddynt ar y fenter hon, ac mae\u2019n deyrnged i d\u00eem Alpha y cydnabyddir ein bod yn barod ar gyfer yr her o ddatblygu sgiliau pobl sy\u2019n gweithio yn y diwydiant pwysig hwn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn cwrdd \u00e2 gofynion y diwydiant sgaffaldio yng Nghymru, bu CWIC mewn trafodaethau ag aelodau o\u2019r Conffederasiwn Mynediad a Sgaffaldio Cenedlaethol (NASC), gweithwyr a\u2019r CITB.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Dwedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau Strategol CITB Cymru: \u201cBydd yr Academi Sgaffaldio ddiweddaraf yn dechrau hyfforddi miloedd o ddysgwyr yn eu gwlad eu hun yn fuan. Edrychwn ymlaen at weithio ag Alpha Safety, sydd \u00e2 statws Sefydliad Hyfforddiant Cydnabyddedig CITB, ac sy\u2019n dod \u00e2 phrofiad ac arbenigedd sylweddol i\u2019r cyfleusterau hyn y mae gwir eu hangen. &nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>\u201cMae CWIC yn ailddatgan ei ymrwymiad i\u2019r diwydiant adeiladu yng Nghymru ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio mewn cydweithrediad \u00e2 chyflogwyr, darparwyr addysg a Llywodraeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p>&nbsp;\u201cMae CWIC eisoes wedi gwneud effaith anferth ar y sector yng Nghymru drwy ei phartneriaid ar draws y genedl, a bydd yr hwb yn SA1 yn helpu\u2019r diwydiant i gyflawni ac ehangu ar ei uchelgeisiau.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Mae ychwanegu\u2019r ganolfan hyfforddiant sgaffaldio at Ganolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru yn galluogi CWIC i adeiladu ar ddarpariaeth ddiweddar eu cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant hynod lwyddiannus sy wedi ymestyn dros y tair blynedd diwethaf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae\u2019r cyfnod hwn wedi gweld agos i 408 o weithgareddau yn cael eu darparu ar draws Cymru, gan gefnogi 691 o gyflogwyr Cymreig ac yn uwchsgilio dros 3,500 o staff y diwydiant adeiladu.  Bydd CWIC yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol hon drwy barhau i gefnogi\u2019r diwydiant adeiladu drwy ddarparu cyrsiau arloesol sy\u2019n arwain y diwydiant o\u2019i Hwb yn Abertawe, i\u2019w cyflwyno ledled Cymru drwy ei rhwydwaith helaeth o bartneriaid.\nMae gwybodaeth am gyrsiau a rhaglenni\u2019r dyfodol ar gael yn www.cwic.wales<\/p>\n\n\n\n<p>Mae gwybodaeth am gyrsiau a rhaglenni\u2019r dyfodol ar gael ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fcwic.wales&amp;data=02%7C01%7CJohn.Gilheaney%40citb.co.uk%7Cef2067a2636d493d21ca08d769088096%7Ce32fcdb1bebe44ebbe1cef4700387163%7C0%7C0%7C637093357549212934&amp;sdata=OuqDzUKbUUAT0gO%2BNw66%2FIeni7ZFz78H4xUx9vDooeM%3D&amp;reserved=0\">www.cwic.wales<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>UWTSD\u2019s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) is collaborating with South Wales-based Alpha Safety to deliver training at its new \u00a31.5m Scaffolding Academy in Swansea and Cardiff. Led by CWIC in partnership with Alpha Safety and the Construction Industry Training Board &hellip; <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":11794,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-11790","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11790","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=11790"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/11790\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/11794"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=11790"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=11790"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=11790"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}