{"id":10809,"date":"2020-04-22T15:08:48","date_gmt":"2020-04-22T15:08:48","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?p=10809"},"modified":"2020-06-17T12:59:03","modified_gmt":"2020-06-17T12:59:03","slug":"uwtsds-construction-wales-innovation-centre-joins-digital-launch-of-the-offsite-ready-project","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/2020\/04\/22\/uwtsds-construction-wales-innovation-centre-joins-digital-launch-of-the-offsite-ready-project\/","title":{"rendered":"Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru PCYDDS yn ymuno \u00e2 lansiad digidol prosiect Offsite Ready"},"content":{"rendered":"<p>Yfory (23 Ebrill), bydd Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru (CWIC) PCYDDS yn ffurfio rhan o lansiad digidol prosiect Offsite Ready, sef rhaglen hyfforddi bwysig i helpu i feithrin arfer gorau a sgiliau ym maes adeiladwaith oddi ar y safle.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r lansiad yn rhan o'r broses o gyflwyno'r rhaglen ledled y wlad, a ariennir gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) ac a fydd yn cynnig ystod o adnoddau dysgu ar-lein rhad ac am ddim a digwyddiadau hyfforddi wyneb yn wyneb. Bwriedir i'r adnoddau hyn feithrin gallu yn system addysg a sgiliau y Deyrnas Unedig, gan sicrhau bod prifysgolion, colegau partner a darparwyr hyfforddiant mewn sefyllfa dda i ymateb i'r twf mewn adeiladu oddi ar y safle yn y Deyrnas Unedig.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd Offsite Ready yn ymgysylltu'n uniongyrchol \u00e2 chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, contractwyr, cyrff addysgol a sefydliadau arloesi blaenllaw ledled y diwydiant adeiladu. Bydd cyfres gynhwysfawr o fodiwlau hyfforddi hyblyg ar-lein yn sicrhau bod allbynnau'r prosiect yn hygyrch 'unrhyw bryd, yn unrhyw le', a byddant ar gael i'w harchebu a'u lawrlwytho o wefan prosiect Offsite Ready.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd hyd at 600 o hyfforddwyr yn cael eu huwchsgilio yn y deunyddiau ledled tair cenedl, ochr yn ochr \u00e2 rhaglen allgymorth mewn ysgolion uwchradd a chydag athrawon.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae CWIC wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r prosiect, a bydd yn cyflwyno'r rhaglen gyffrous ac addysgiadol hon ledled Cymru, a hynny ar y cyd \u00e2'i bartneriaid (Lloerennau) o bob cwr o Gymru.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p>Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan CSIC a'i gyflwyno mewn partneriaeth \u00e2 CWIC, MOBIE (y Weinyddiaeth Adeiladu ac Addysg), Prifysgol Napier Caeredin, COGC (Coleg Dinas Glasgow) a COYO (Class of Your Own).<\/p>\n\n\n\n<p>Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir \u00e2 nhw yn y rhaglen y mae'r canlynol: Swyddogaethau Dylunio, Swyddogaethau Caffael, Rheoli Costau, Rheoli Prosiectau a Safleoedd, Logisteg a Chydosod ar y Safle, a Masnachu Dilynol ac i Fyny'r Gadwyn.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae pecyn cymorth ar-lein ar gael i yn rhad ac am ddim addysgwyr, ac mae'n darparu ystod o adnoddau hygyrch sydd wedi'u cyd-ddylunio gan arbenigwyr diwydiant ac academaidd ym maes adeiladu oddi ar y safle. Mae'n darparu cyfle DPP cydnabyddedig i gyrchu, o bell, yr adnoddau diweddaraf i ddysgu'r ymarfer o adeiladu oddi ar y safle yn y ffordd orau.<\/p>\n\n\n\n<p>Bydd y digwyddiad ar-lein, sef cynhadledd gan Offsite Ready, yn cynnwys y canlynol:<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Cyflwyniad i'r rhaglen gan rai o'n partneriaid arbenigol ar y prosiect<\/li><li>Gweminar dan arweiniad ein hyfforddwyr, a fydd yn llywio cyfranogwyr trwy'r pecyn cymorth<\/li><li>Ystafelloedd ymneilltuo, lle gellir sgwrsio a thrafod hyfforddiant oddi ar y safle ymhellach<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p><strong>Dywedodd Lindsay Richards o PCYDDS, Cyfarwyddwr Prosiect \u2013 Offsite Ready Cymru:<\/strong> <br><br>\u201cYn fy r\u00f4l o fod yn gyfarwyddwr prosiect rhanbarthol, mae hwn wedi bod yn brosiect hynod o gyffrous i fod yn rhan ohono. Bydd y cyfle i weithio gyda'r rhwydwaith arbenigol o bartneriaid prosiect ledled y Deyrnas Unedig, i sefydlu rhaglen hyfforddi bwysig i helpu i feithrin arfer gorau a sgiliau ym maes adeiladu oddi ar y safle, yn sicrhau bod Cymru yn Offsite Ready!\u201d<\/p>\n\n\n\n<p><strong>Wrth s\u00f4n am lansiad digidol prosiect Offsite Ready, dywedodd Mark Bodger, Cyfarwyddwr Partneriaethau CITB Cymru:<\/strong>&nbsp;\u201cMae hwn yn gydweithrediad pwysig ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, ac mae CITB yn falch iawn o fod yn ei ariannu ac o gael bod yn rhan ohono. Mae adeiladu oddi ar y safle yn creu ystod o anghenion a chyfleoedd ar gyfer sgiliau newydd hanfodol, gan gynnwys ym meysydd cydosod, technolegau digidol a gosod. Mae prosiect Offsite Ready yn gam mawr i'r cyfeiriad cywir oherwydd bod ei fuddion moderneiddio niferus \u2013 o ran cynhyrchiant, iechyd a diogelwch, ac mewn perthynas \u00e2 them\u00e2u amgylcheddol \u2013 hyd yn oed yn fwy amlwg yn yr amseroedd neilltuol hyn.\u201d<\/p>\n\n\n\n<p>Dilynwch ni hefyd ar&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.offsiteready.com\">Nod Parod Oddi ar y Safle<\/a>&nbsp;i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ac am adnoddau defnyddiol eraill ym maes adeiladu oddi ar y safle.&nbsp;<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>UWTSD\u2019s Construction Wales Innovation Centre (CWIC) will tomorrow (April 23) form part of a digital launch of The Offsite Ready Project, a major training programme to help grow best practice and skills in off-site construction.&nbsp; The launch is part of &hellip; <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":10814,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-10809","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-uncategorized"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10809","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=10809"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/10809\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/10814"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=10809"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=10809"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=10809"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}