{"id":14568,"date":"2025-01-09T12:14:42","date_gmt":"2025-01-09T12:14:42","guid":{"rendered":"https:\/\/cwic.wales\/?page_id=14568"},"modified":"2025-05-16T14:43:10","modified_gmt":"2025-05-16T14:43:10","slug":"sustainable-urban-drainage-and-catchment-hydrology","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/sustainable-urban-drainage-and-catchment-hydrology\/","title":{"rendered":"Draenio trefol cynaliadwy a hydroleg dalgylchoedd"},"content":{"rendered":"<h4><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-14629 size-medium\" src=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185.png\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"300\" srcset=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185.png 1182w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185-300x300.png 300w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185-1024x1024.png 1024w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185-150x150.png 150w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185-768x768.png 768w, https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/02\/NBAU-Icons-for-Bakery-CYM-0185-12x12.png 12w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/>Y Manylion<\/h4>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Bydd y dysgwyr yn ymchwilio i'r modd y mae dyluniad adeiladau yn effeithio ar ddynameg llif d\u0175r a hydroleg leol. Bydd yr archwiliad hwn yn cynnwys graddfeydd amrywiol, o dai unigol i lefel y stryd, gan ddatgelu patrymau symudiad d\u0175r hynod ddiddorol a chywrain.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Bydd y dysgwyr yn cael eu cyflwyno i'r egwyddorion o ran y modd y gall datblygiadau trefol unigol effeithio ar ddynameg llif d\u0175r leol, yn ogystal \u00e2 goblygiadau ledled y dalgylch o ran patrymau llif a'r risg o lifogydd. Bydd y dysgwyr yn deall ac yn sylweddoli'r modd y gall datblygiadau i fyny'r afon effeithio ar ardaloedd i lawr yr afon, a'r modd y mae tirweddau trefol yn siapio patrymau llif dalgylchoedd.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Bydd y blwch tywod yn cynnwys tirwedd wedi'i argraffu'n 3D, megis cefndeuddwr lleol neu ddalgylch d\u0175r lleol megis cwm Tawe, lle gall y defnyddwyr ryngweithio ag amrywiol elfennau. Gallant sythu segmentau'r afon, ychwanegu neu ddileu coetiroedd, a chyflwyno ardaloedd trefol i arsylwi ar ganlyniadau'r model o ran y llif d\u0175r, gan ddarparu profiad dynamig ac addysgol.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Arweinir y sesiwn hon gan Alisdair Cunningham, Uwch-ddarlithydd, Yr Ysgol Pensaern\u00efaeth, Adeiladu a'r Amgylchedd.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h4><strong>Amcanion Dysgu<\/strong>\u00a0<\/h4>\r\n\r\n\r\n\r\n<p>Bydd y modiwl yn cyflwyno ac yn egluro cysyniadau hydroleg, dynameg dalgylchoedd, a draeniad trefol. Bydd yn cyflwyno cysyniadau dylunio dalgylch cyfan, lle mae datblygiadau'n ystyried yr effaith gyfunol ar hydroleg y dalgylch a'i ddylanwad ar y risg o lifogydd a llygredd.\u00a0<\/p>\r\n<div style=\"width: 640px;\" class=\"wp-video\"><video class=\"wp-video-shortcode\" id=\"video-14568-1\" width=\"640\" height=\"360\" preload=\"metadata\" controls=\"controls\"><source type=\"video\/mp4\" src=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Alisdair-Cunningham.mp4?_=1\" \/><a href=\"https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Alisdair-Cunningham.mp4\">https:\/\/cwic.wales\/wp-content\/uploads\/2025\/05\/Alisdair-Cunningham.mp4<\/a><\/video><\/div>\r\n<h4>Gwybodaeth am Alisdair<\/h4>\r\n<p>Fel gwyddonydd synhwyro o bell, mae Alisdair yn arbenigo mewn echdynnu gwybodaeth o synwyryddion arsylwi'r ddaear er mwyn ei defnyddio ar gyfer materion y byd go iawn sy'n gofyn am wybodaeth amserol i fonitro adnoddau. Ar \u00f4l treulio nifer o flynyddoedd yn y byd academaidd ac wyth mlynedd mewn diwydiant fel ymgynghorydd amgylcheddol arbenigol, mae Alisdair wedi magu profiad diwydiannol amhrisiadwy, yn bennaf wrth gymhwyso data aml-amser, aml-sbectrol i feysydd amrywiol (coedwigaeth, amaethyddiaeth, ansawdd d\u0175r, a phrosiectau seilwaith). Gall Alisdair hefyd ymgorffori ffynonellau data eraill yn \u00f4l yr angen, gan gynnwys cynhyrchion sy'n deillio o SAR, a chynhyrchion lidar.<\/p>\r\n<p><br \/>Mae\u2019n Uwch-ddarlithydd ar y cwrs Cynaliadwyedd Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sefydlu cysylltiadau \u00e2 thechnegau cyfoes o\u2019r radd flaenaf, arferion academaidd, a phrofiad blaenorol yn y diwydiant.<\/p>\r\n<p><a href=\"mailto:a.cunningham@uwtsd.ac.uk\">a.cunningham@uwtsd.ac.uk<\/a><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>The Details Learners will delve into how construction design impacts water flow dynamics and local hydrology. This exploration will span various scales, from a single house to the street level, revealing fascinating, intricate, water movement patterns.\u00a0 Learners will be introduced &hellip; <\/p>","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_exactmetrics_skip_tracking":false,"_exactmetrics_sitenote_active":false,"_exactmetrics_sitenote_note":"","_exactmetrics_sitenote_category":0,"footnotes":""},"class_list":["post-14568","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14568","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=14568"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14568\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":14820,"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/14568\/revisions\/14820"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwic.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=14568"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}