Dyddiad/Amser
Date(s) - 01/06/2021 - 30/07/2021
Trwy'r dydd
Categorïau
Trosolwg
Mae Modelu Gwybodaeth Adeiladu (BIM) yn trawsnewid adeiladu. Ein cwrs hanfodion BIM yw eich carreg sarn i lwyddiant prosiect a chynnydd tuag at Ardystiad BIM.
Mae’r cwrs hyfforddi ar-lein cynhwysfawr hwn yn darparu trosolwg i reoli gwybodaeth trwy ddefnyddio BIM gan ddilyn y safon ryngwladol newydd (ISO 19650 rhannau 1 a 2).
Caiff ei gyflwyno mewn modiwlau strwythuredig, a byddwch yn archwilio’r derminoleg allweddol a ddefnyddir wrth ddisgrifio BIM a’r gweithgareddau sy’n ffurfio’r swyddogaeth rheoli gwybodaeth. Bydd ein tiwtor arbenigol BIM yn eich tywys ac yn sicrhau ar gwblhau eich bod wedi’ch cyfarparu ac yn barod i wireddu manteision BIM o fewn eich sefydliad eich hun.
I bwy mae’r cwrs hwn yn berthnasol?
Mae’r cwrs ar-lein hwn yn addas ar gyfer gweithwyr proffesiynol adeiladu a rheoli asedau (gan gynnwys dylunwyr, adeiladwyr, rheolwyr prosiect, rheolwyr asedau, gweithgynhyrchwyr, rheolwyr gwybodaeth, a chontractwyr cynnal a chadw). Fel cyflwyniad manwl i BIM, mae’n addas ar gyfer y rheiny sy’n rhoi BIM mewn gweithrediad yn eu sefydliad, eu harferion gwaith eu hunain, neu sy’n cynorthwyo eu cleientiaid neu gadwyni cyflenwi gyda mabwysiadu BIM.
Rhaglen y Cwrs
Modiwl 1: Elfennau Sylfaenol BIM
- Uned 1 – Catalydd ar gyfer Newid
- Uned 2 – Beth yw BIM
Modiwl 2: Hanfodion ISO 19650
- Uned 1 – Cyflwyniad i ISO 19650
Asesu ac angen - Uned 2 – Caffael gwybodaeth
Gwahoddiad i dendro
Ymateb y tendr - Uned 3 – Cynllunio gwybodaeth
Penodi
Paratoi i gychwyn - Uned 4 – Cynhyrchu gwybodaeth
Cynhyrchu ar y cyd
Cyflwyno model gwybodaeth
Cau prosiect
Modiwl 3: Hanfodion arfer gorau BIM
- Uned 1 – Swyddogaethau rheoli gwybodaeth
Gofynion rheoli gwybodaeth
Diffinio swyddogaethau rheoli gwybodaeth
Penodi swyddogaethau cydrannol
Swyddogaethau gwybodaeth cydrannol penodedig arweiniol
Swyddogaethau gwybodaeth dasg - Uned 2 – Safon arfer gorau, dulliau a gweithdrefnau (SMPs)
Pam safonau?
Cyflwyno dogfen
Gweithio ar y cyd
Gwybodaeth strwythuredig
Mae’r cwrs yn diweddu gydag arholiad ar-lein byr sy’n cynnwys cwestiynau ar yr holl bynciau a gwmpaswyd. Dyma ffordd wych i arddangos eich gwybodaeth newydd a nodi dysgu pellach y gall fod ei angen arnoch.
Deilliannau'r Cwrs
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn gallu;
- Mynegi prosesau rheoli gwybodaeth gan ddefnyddio terminoleg ryngwladol.
- Esbonio i eraill gwell gwerth Rheoli Gwybodaeth wrth ddefnyddio BIM.
- Teimlo’n hyderus wrth amlinellu elfennau allweddol y broses BIM.
- Deall sut caiff gwybodaeth ei chynhyrchu’n seiliedig ar safonau gwybodaeth, dulliau cynhyrchu a gweithdrefnau eich prosiect.
- Nodi’r budd-ddeiliaid allweddol i helpu cefnogi tasgau’n gysylltiedig â’r swyddogaeth rheoli gwybodaeth.
- Mabwysiadu’r prosesau hyn o fewn eich sefydliad.
- Trafod safonau gwybodaeth rhyngwladol sy’n berthnasol i BIM agored a’r gallu i ryngweithredu.
Hyd y Cwrs
12 awr
Darparwr
BRE Academy
Applications
We welcome applications from companies as well as employed individuals.
To apply for a funded place on this course companies can complete the Employer Application form in the first instance.
If you are an employed individual and meet the eligibility criteria please complete y ffurflen yma.
Please note that should you cancel or not complete the course cancellation charges may apply.
Please note that should you cancel or not complete the course cancellation charges may apply.